|
Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru. Fe'i hariennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan
Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998, ond mae'n gorff annibynnol
i'r Cynulliad. Mae'r Prif Arolygydd a'i staff yn weision sifil.
Beth mae Estyn yn ei wneud?
Mae Estyn yn gysylltiedig ag ystod eang o weithgarwch yn ymwneud
ag addysg a hyfforddiant. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu
- ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau addysg lleol (AALlau);
- ysgolion cynradd;
- ysgolion uwchradd;
- ysgolion arbennig;
- unedau cyfeirio disgyblion;
- ysgolion annibynnol;
- addysg bellach;
- dysgu oedolion yn y gymuned;
- gwasanaethau cymorth ieuenctid;
- hyfforddiant gwaith ieuenctid a chymuned;
- AALlau;
- addysg a hyfforddiant athrawon;
- dysgu yn y gwaith;
- cwmnïau gyrfaoedd;
- dysgu troseddwyr; ac
- elfennau addysg, arweiniad a hyfforddiant rhaglenni hyfforddi a ariennir gan Yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cyflawnir rhai o'r dyletswyddau hyn gan waith a wneir yn benodol
gan staff Estyn ei hun, ar brydiau gyda chymorth arolygwyr ychwanegol
ac aseswyr cydweithwyr. Gwneir gwaith arall gan arolygwyr annibynnol
sy'n arolygu ysgolion unigol a lleoliadau meithrin o dan gontract
i Estyn.
Dyletswyddau eraill Estyn
Mae dyletswyddau eraill Estyn yn cynnwys cynnig cyngor yn unol â chylch gorchwyl a bennir yn flynyddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
|