Newyddion a Digwyddiadau


Newyddion

 

15 Chwefror 2010


Estyn yn cyhoeddi enw’r Prif Arolygydd


O ddydd Llun 15 Chwefror, bydd Cyfarwyddwr Strategol Estyn, Ann Keane, yn ymgymryd â swydd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru nes y gwneir penodiad tymor hwy yn yr hydref.

 

6 Tachwedd 2009

 

Gwybodaeth am frandio a chysylltu â budd-ddeiliaid

Mae Estyn, sef yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn adolygu ei gyfathrebu allanol a’i frand er mwyn deall yr hyn y mae ein rhanddeiliaid yn ei feddwl am Estyn a’u dealltwriaeth o’r gwasanaethau a ddarperir gennym.

Fel rhan o’r adolygiad hwn, mae Estyn wedi penodi ymgynghoriaeth frandio, sef Brand 68, i siarad gyda rhai o’n rhanddeiliaid proffesiynol er mwyn cael eu barn am Estyn a’r gwaith y mae’n ei gyflawni.

Yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf, bydd aelod o dîm Brand 68 yn cysylltu â’n rhanddeiliaid i drefnu amser cyfleus i drafod yr archwiliad ac i ofyn ychydig gwestiynau.  Ni ddylai’r cyfweliad bara mwy na 10 munud.

Dim ond gyda mewnbwn gwerthfawr ein rhanddeiliaid allweddol y gall Estyn ddatblygu a mireinio’r modd y mae’n cyfathrebu’n allanol â’i randdeiliaid.

Hoffai Estyn ddiolch i’n holl randdeiliaid  mlaen llaw am eu cymorth a’u cydweithrediad.

 

2 Tachwedd 2009

Arweiniad ar Arolygiadau Estyn yn ystod Pandemig Ffliw

Cyflwyniad

Mae’r llywodraeth yn ein cynghori ni y dylai busnes, lle bynnag y bo modd, fynd ymlaen fel arfer yn ystod pandemig ffliw. Bydd Estyn yn parhau i weithio yn ystod pandemig ffliw oni bai bod prinder staff neu ffactorau lleol eraill, fel methiant yn y rhwydweithiau cludiant neu seilwaith hanfodol, yn gwneud parhau i weithio yn amhosibl. Mae gan Estyn gynlluniau parhad busnes yn eu lle a fyddai’n cael eu rhoi ar waith pan fydd difrifoldeb pandemig yn cynyddu.

 

Mwy o ddatganiadau i’r wasg

Digwyddiadau

 

Dim digwyddiadau cyfredol.