|
Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru.
Nod ac amcanion Estyn
Nod:
- codi safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru trwy arolygu a chynghori, i gefnogi'r weledigaeth a'r cyfeiriad strategol a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Amcanion:
- darparu arolygiadau o ansawdd uchel o ddarparwyr addysg a hyfforddiant
unigol, a gwasanaethau cysylltiedig, yng Nghymru; a
- darparu cyngor annibynnol a chadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth arolygiadau, er mwyn hysbysu Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth iddo ffurfio ac arfarnu ei bolisi ar addysg a hyfforddiant.
Wrth gyflawni' r uchod, bwriadwn drin y Gymraeg a'r Saesneg yn
gyfartal yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg.
Cliciwch am:
|