Telerau ac Amodau a Datganiad Preifatrwydd
Mae Estyn.gov.uk yn un o wefannau’r llywodraeth sy’n cael ei rheoli gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, (‘Ni’). Wrth gyrraedd ein gwefan, rydych Chi, y defnyddwyr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau a’n Hamodau.
Caniatawn Ni drwydded anunigryw i Chi ddefnyddio’r wefan hon yn unol â’r Telerau a’r Amodau a nodir yn y ddogfen hon. Gallwn Ni derfynu’r drwydded hon ar unrhyw adeg heb rybudd.
Eiddo Deallusol
Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Estyn yn nodau y mae Estyn yn berchen arnynt, a diogelir y rhain, ynghyd â deunydd arall a gynhwysir ar y wefan hon, megis dyluniad, gosodiad, edrychiad, ymddangosiad a graffeg (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) gan ddeddfau eiddo deallusol sy’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hawlfraint. Nid ydym Ni yn caniatau copïo na defnyddio logo Estyn na/neu unrhyw logos eraill sy’n perthyn i drydydd parti, drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth perchennog priodol yr hawlfraint ymlaen llaw.
Logos
Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Estyn at
Y We-feistr
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW
Ffôn: 02920 446446
Ffacs: 02920 446448
E-bost: Webmaster@estyn.gsi.gov.uk Dywedwch wrthym sut a pham rydych Chi yn dymuno defnyddio’n logos. Dylech gynnwys eich manylion cyswllt, eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich rhif ffacs a’ch cyfeiriad e-bost Chi.
Cydnabyddir pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon ac nad yw’n eiddo i Estyn nac ar gael drwy drwydded i Estyn
Gallwch weld, defnyddio, dadlwytho a storio’r deunydd ar y wefan hon at ddibenion personol ac ymchwil yn unig. Ni chaniateir defnydd masnachol. Gwaherddir Chi rhag ailddosbarthu, ailgyhoeddi neu ddarparu’r deunydd ar y wefan hon mewn rhyw ffordd arall i drydydd partïon.
Gallai defnyddio’r wefan hon heb awdurdod esgor ar hawliad am iawndal a/neu gallai fod yn drosedd criminal.
Uwch-gysylltiad â ni yn estyn.gov.uk
Nid yw’n ofynnol i Chi geisio caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol â’r tudalennau ar y wefan hon. Nid ydym Ni yn gwrthwynebu i Chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth a gynhwysir ar ein gwefan. Fodd bynnag, byddai’n well gennym Ni pe na llwythid ein tudalennau i fframiau, ar eich safle Chi. Dylai tudalennau gwe Estyn lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Os na ddymunwch Chi lwytho tudalennau o fewn fframiau, cysylltwch â Webmaster@estyn.gsi.gov.uk
Perchnogion Porth Cyfrifiadurol
Os dymunwch Chi gynnwys tudalennau gwe Estyn o fewn safle porth, cysylltwch â Webmaster@estyn.gsi.gov.uk . Dylech gynnwys eich manylion cyswllt Chi, eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich rhif ffacs a’ch cyfeiriad e-bost a disgrifiad o’ch safle porth Chi
Cysylltu o’r wefan hon
Nid ydym Ni yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym Ni yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd dros gynnwys gwefannau eraill nad ydynt o dan ein rheolaeth lem ni. Ni fwriedir i unrhyw gysylltiad gael ei ardystio gennym ni, ac ni ddylid cymryd ein bod yn ei ardystio. Ni allwn sicrhau y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig.
Diogelu rhag Feirws
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunyddiau ar bob cam yn y broses gynhyrchu. Mae’n ddoeth bob amser i Chi redeg rhaglen wrth-feirws ar bob deunydd sy’n cael ei ddadlwytho o’r Rhyngrwyd. Ni allwn Ni dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol Chi a all ddigwydd tra byddwch yn defnyddio deunydd sy’n deillio o wefannau Estyn.
Ymwrthodiad
Darperir gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau Estyn (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y maent’. Ni fyddwn Ni yn atebol i Chi mewn unrhyw ffordd boed mewn contract, camwedd, (gan gynnwys esgeulustod), methu mewn dyletswydd statudol, adferiad neu fel arall am unrhyw anaf, marwolaeth, difrod neu golled uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol (ac mae’r Telerau hyn y tri yn cynnwys, heb gyfyngiad, golled economaidd bur, colli elw, colli busnes, llai o ewyllys da a cholled debyg) a achosir mewn unrhyw ffordd drwy ddefnyddio’r wefan hon neu mewn cysylltiad â hi, neu drwy ddefnyddio, cyrchu, dadlwytho neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau eraill a gynhwysir ar y wefan hon, gan gynnwys, heb gyfyngiad, o ganlyniad i unrhyw feirws cyfrifiadurol.
Nid yw’r Telerau a’r Amodau hyn yn eithrio ein hatebolrwydd Ni (os oes atebolrwydd) i Chi am anaf bersonol neu farwolaeth o ganlyniad i’n hesgeulustod Ni, am dwyll neu am unrhyw fater arall y byddai’n anghyfreithlon i Ni ei eithrio neu geisio ei eithrio o’n hatebolrwydd.
Cytundeb Llwyr
Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cynnwys yr holl Delerau yr ydym Ni wedi eu cytuno gyda Chi mewn perthynas â defnyddio’r wefan.
Awdurdodaeth a Derbyn y Telerau a’r Amodau hyn
Caiff y wefan hon ei rheoli a’i gweithredu gan Estyn o’n swyddfeydd yng Nghymru. Cyfraith Cymru a Lloegr fel y mae’n gymwys yng Nghymru, fydd yn llywodraethu ffurf, bodolaeth, lluniad, perfformiad, dilysrwydd y Telerau a’r Amodau hyn mewn unrhyw ffordd bynnag neu ddilysrwydd unrhyw derm yn y Telerau a’r Amodau hyn, neu unrhyw anghydfod mewn perthynas â’r deunyddiau a gynhwysir ar y wefan hon. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth lwyr i setlo unrhyw anghydfodau a all godi yn sgîl neu mewn cysylltiad â’r Telerau a’r Amodau hyn neu ddefnyddio’r wefan.
Os bydd anghysondebau rhwng fersiwn Saesneg a fersiwn Cymraeg y Telerau a’r Amodau hyn a’r datganiad preifatrwydd, y fersiwn Saesneg fydd drechaf.
Cymerir bod defnyddio’r wefan hon yn barhaus yn arwydd eich bod yn derbyn y Telerau a’r Amodau hyn.
Datganiad Preifatrwydd
Mae’r polisi hwn yn rhan o’r Telerau a’r Amodau hyn ac mae’n gosod allan ein polisi mewn perthynas â dal a defnyddio gwybodaeth y gallwn ei chael oddi wrthych wrth ichi ddefnyddio’r wefan hon. Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r wefan yn ei chyfanrwydd.
Mae Estyn wedi ymrwymo i barchu’ch preifatrwydd. Rydym wedi llunio’n gwefan fel nad yw’n ofynnol i Chi roi unrhyw wybodaeth bersonol i Ni er mwyn defnyddio’r rhan fwyaf ohoni. Ar ôl i Chi ddewis darparu unrhyw wybodaeth i Ni y gellir eich adnabod Chi drwyddi, yna gallwch fod yn sicr mai yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig y caiff ei defnyddio.
Yr hyn a gasglwn
Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Lle dymunwch gyflwyno ymholiad, bydd yn ofynnol i Chi roi gwybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
Beth a wnawn â'r wybodaeth a gasglwn?
Mae angen y wybodaeth hon arnom at y dibenion canlynol:
- Cadw cofnodion mewnol
- Mae’n bosibl y bydd ein cynrychiolwyr yn cysylltu, naill ai drwy e-bost, ffôn neu’r post, â phobl sydd wedi ymweld â’n gwefan fel rhan o’n gweithrediadau cysylltiadau cyhoeddus ac i ymateb i unrhyw ymholiadau penodol a gawn
 phwy fyddwn ni'n rhannu'r wybodaeth a'ch dewisiadau
Pan ddefnyddiwch y safle hwn a rhoi gwybodaeth bersonol i Ni heb ein hysbysu i’r gwrthwyneb, rydych yn cytuno i Ni ddefnyddio gwybodaeth bersonol felly, at y dibenion sydd wedi eu gosod allan yn y datganiad hwn.
Ni fyddwn Ni yn gwerthu, dosbarthu na rhoi’ch gwybodaeth bersonol ar brydles i drydydd partïon oni chawn eich caniatâd neu os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Beth os byddwch o'r farn nad yw'r wybodaeth gywir gennym, neu os hoffech gael copi o'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi?
Gallwch ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd angen talu ffî fach. Ni fydd y ffî hon yn fwy na £10. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch at:
Y Rheolwr TG
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW
Webmaster@estyn.gsi.gov.uk
Os ydych o’r farn fod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost cyn gynted â phosibl i’r cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro ar unwaith unrhyw wybodaeth y gwelir wedyn ei bod yn anghywir.
Gwefannau eraill
Mae’n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys cysylltiadau i’ch galluogi i ymweld yn hwylus â gwefennau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, ar ôl i chi ddefnyddio’r cysylltiadau hyn i adael ein gwefan, dylech sylwi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch tra byddwch yn ymweld â gwefannau felly, ac ni chaiff gwefannau felly eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
|