Rhoi cynnydd ar waith
Yn Adroddiad Blynyddol 2009-2010, rydym wedi amlygu astudiaethau achos arfer dda mewn darparwyr addysg a hyfforddiant ledled Cymru. Rydym wedi datblygu’r astudiaethau achos hyn yn ffilmiau byrion i rannu ffyrdd sydd wedi hen ennill eu plwyf o godi safonau gyda phob gweithiwr addysg proffesiynol. Mae pob ffilm, sy’n cynnwys cyfweliadau gyda staff, dysgwyr a rhieni, yn edrych ar faes llwyddiant gwahanol mewn darparwr.
Os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw un o’r astudiaethau achos isod, yna gallwch gysylltu â’r darparwr perthnasol neu gysylltu â ni.
Mae Ysgol Gynradd Llantrisant ar gyrion Pentref Llantrisant. Pan gafodd yr arolygiad ei gynnal, roedd yr ysgol yn darparu ar gyfer rhyw 118 o ddysgwyr cyfwerth ag amser llawn. Roedd hawl gan ryw 17% o ddisgyblion yr ysgol i gael prydau bwyd am ddim. Mae’r ffigur yma’n ddigon agos at y cyfartaledd cenedlaethol.
Mae Ysgol Morfa Rhianedd yn ysgol gynradd gymunedol sy’n cynnig addysg Gymraeg i ddisgyblion Llandudno a’r ardal. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n cynnal yr ysgol. Mae Cylch Meithrin Morfa Rhianedd yn cael ei gynnal mewn caban a gafodd ei adeiladu’n bwrpasol yn yr ysgol, ac mae’n darparu addysg i blant dan bump oed.
Mae Meithrinfa Tiny Tots yn feithrinfa ddydd gofrestredig ar dir campws Caerllion Prifysgol Cymru Casnewydd. Mae’r feithrinfa’n cynnig gofal dydd ac addysg i blant staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae gardd ddiogel, man chwarae ac Ysgol Goedwig yn cynnig cyfleoedd i blant ddysgu yn yr awyr agored.
Mae Coleg Ystrad Mynach ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae prif gampws y coleg yn Ystrad Mynach, ail gampws yn y Rhymni, ac mae nifer o ganolfannau llai yn yr ardal.
Pan gafodd yr arolygiad ei gynnal, roedd 243 o ddysgwyr yn hyfforddi mewn amryw o feysydd pwnc y sector. Roedd ansawdd y cymorth a’r arweiniad i ddysgwyr yn y gwaith yn rhagorol.
Mae Ysgol Esgob Gore yn ysgol gyfun i blant 11 i 18 oed yn ardal Sgeti yn Abertawe. Mae 1,213 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae cyfran y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Yn yr arolygiad yma, cafodd Ysgol Esgob Gore y graddau uchaf ar gyfer pob agwedd ar ei gwaith.
Mae’r Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned ym Merthyr Tudful yn cynnwys nifer o ddarparwyr ac asiantaethau cymorth. Yn eu plith mae’r gyfadran addysg bellach leol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau cymunedol, Prifysgol Morgannwg a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr (de Cymru). .

