Adroddiad Blynyddol 2011-2012

Mae Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd yn rhoi trosolwg o safonau a pherfformiad ar draws addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

“Dylai arweinwyr mewn ysgolion ac mewn darparwyr addysg a hyfforddiant eraill ddefnyddio’r canfyddiadau yn fy adroddiad blynyddol a’i nifer fawr o astudiaethau achos o arfer orau i feddwl ynghylch sut gallant reoli newid yn eu sefydliadau er mwyn adnewyddu’r diwylliant, canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a gwella hunanarfarnu.”

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

 

Rhagair

Mae Ann Keane, y Prif Arolygydd, yn amlinellu’r canfyddiadau allweddol o arolygiadau ac yn rhoi sylwadau ar yr heriau sy’n wynebu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

 

Blaenoriaethau a darpariaeth

Llythrennedd a rhifedd, tlodi ac anfantais, y Cyfnod Sylfaen, Bagloriaeth Cymru a darpariaeth ar gyfer dysgwyr 14-19 oed, ac astudiaethau achos.

 
 

Gweithgareddau arolygu dilynol

Adrodd ar ganlyniadau’r ymweliadau monitro ag ysgolion a darparwyr eraill, gydag astudiaethau achos ar y modd y mae gweithgareddau arolygu dilynol yn helpu gwelliant.

 

Adroddiad sector

Trosolwg o berfformiad a rhagolygon, gweithgarwch dilynol, deilliannau, darpariaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer pob sector, gan gynnwys astudiaethau achos o arfer orau.

 
 

Crynodebau o adroddiadau thematig Estyn

Y cyngor a roddir i Lywodraeth Cymru ar amrywiaeth o themâu, er mwyn helpu llywio datblygu polisi a monitro cynnydd.

 

Sylwadau ar berfformiad

Data ar berfformiad disgyblion mewn asesiadau athrawon ar ddiwedd cyfnod allweddol ac arholiadau, gyda golwg ar bresenoldeb, gwaharddiadau a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

 
 
 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.