Adroddiadau Blynyddol 2010-2011

Rhannu |

Mae Adroddiad Blynyddol eleni yn rhoi trosolwg ar safonau a pherfformiad ysgolion a sefydliadau eraill sy’n darparu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Dyma’r Adroddiad Blynyddol cyntaf ers cyflwyno’r fframwaith arolygu newydd, lle bu mwy o bwyslais ar ba mor dda y mae ysgolion a darparwyr yn cyflwyno dysgu ar sail medrau, a hunanarfarnu.

I gael cyflwyniad i brif ganfyddiadau’r adroddiad, gwyliwch we-ddarllediad y Prif Arolygydd.

Gall gweithwyr addysg a hyfforddiant proffesiynol o bob sector lwytho cyflwyniadau PowerPoint i lawr, sy’n cynnig trosolwg o’r prif ganfyddiadau ar gyfer pob sector. Mae croeso i chi ddefnyddio’r deunyddiau hyfforddi hyn i rannu a thrafod prif ganfyddiadau’r adroddiad.

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella’r Adroddiad Blynyddol, felly, os oes rhai syniadau gennych, anfonwch neges e-bost at cyfathrebu@estyn.gov.uk

Rhagair

Cyflwyniad gan Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

 

Cipolygon a materion eraill

Materion ac agweddau allweddol addysg a hyfforddiant.

 
 

Adroddiad sector

Trosolwg o ddarpariaeth, perfformiad, deilliannau ac arweinyddiaeth a rheolaeth ar gyfer pob sector.

 

Crynodebau o arolygon cylch gwaith Estyn

Adolygiad a dadansoddiad o’r holl adroddiadau thematig a gyhoeddwyd yn 2010-2011.

 
 

Gwybodaeth am Estyn

Gwybodaeth ddefnyddiol am yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant.

 
 
 

Os ydych yn rhiant, cliciwch yma i ddarllen crynodeb o safonau a pherfformiad ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig Cymru.