Ysgol dosbarth cyntaf

Rhannu |

Mae Ysgol Esgob Gore yn ysgol gyfun i blant 11 i 18 oed yn ardal Sgeti yn Abertawe. Mae 1,213 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae cyfran y disgyblion sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn llawer uwch na chyfartaledd Cymru. Yn yr arolygiad yma, cafodd Ysgol Esgob Gore y graddau uchaf ar gyfer pob agwedd ar ei gwaith.

Roedd yr ysgol yn darparu cyfleoedd dysgu amrywiol iawn i’r holl ddisgyblion, gan gydnabod fod anghenion y disgyblion yn amrywio’n fawr. Roedd gan yr ysgol ddull personol o ddysgu ac roedd wedi sefydlu diwylliant a oedd yn cydnabod pwysigrwydd llwyddo yn nhermau cyrhaeddiad ac agweddau eraill ar fywyd yr ysgol a bywyd yn gyffredinol.

Un o gryfderau’r ysgol oedd safon uchel yr addysgu. Roedd yr addysgu’n dda neu’n well mewn cyfran uchel o’r gwersi. Roedd cyrsiau’n cadw diddordeb disgyblion ac yn bodloni’u dyheadau.

Roedd arweinyddiaeth y pennaeth, y dirprwy bennaeth a’r rheolwyr canol yn rhagorol. Roedd y pennaeth a’r dirprwy bennaeth yn llwyddo’n dda i ddadansoddi’r ddarpariaeth, i nodi meysydd i’w gwella ac i gynllunio camau gweithredu clir a oedd yn arwain at welliannau. Roedden nhw’n gosod disgwyliadau uchel, ac roedd ganddyn nhw weledigaeth glir ac ymrwymiad i barhau i wella safonau ac i ddarparu’r cyfleoedd gorau i’r disgyblion.

O ganlyniad, roedd perfformiad y dysgwyr yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 yn rhagorol, ac roedd hynny’n cymharu’n dda ag ysgolion tebyg yng Nghymru. Nid oedd yr un disgybl wedi gadael yr ysgol yn 2009 heb gymhwyster. Ar ddiwedd Blwyddyn 11, roedd 84% o’r disgyblion yn parhau mewn addysg amser llawn yn yr ysgol neu mewn addysg bellach. Roedd llai na 6% heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Mae’r canrannau yma’n well na’r cyfartaledd lleol a’r cyfartaledd cenedlaethol.