Adroddiadau thematig
Adolygiad cychwynnol o effeithiolrwydd rhaglenni Hyfforddeiaethau a Chamau at Waith Llywodraeth Cymru - Ionawr 2013
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y modd y mae’r dysgwyr yn gwneud cynnydd ar y rhaglenni a’r prosesau y mae darparwyr wedi eu rhoi ar waith i’w cefnogi a’u symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant.
Adolygiad o safonau ac ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer peirianneg mewn colegau addyg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith yng Nghymru - Ionawr 2013
Mae llawer o enghreifftiau o arfer dda ac weithiau arfer ragorol i’w gweld mewn colegau AB a darparwyr dysgu yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau o weithio gyda diwydiant i ddatblygu technoleg uwch, darparu cyfleoedd hyfforddiant peirianneg newydd ar gyfer dysgwyr a chwmnïau, a datblygu cysylltiadau mwy effeithiol gydag ysgolion i gyflwyno disgyblion i dechnolegau peirianneg.
Datblygu'r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen - Ionawr 2013
Mae plant yng Nghymru yn gwneud cynnydd o ran caffael medrau iaith Gymraeg, ond mae angen gwneud mwy i barhau â’r duedd tuag i fyny yn eu medrau darllen ac ysgrifennu.
Arfer effeithiol wrth fynd i’r afael â thlodi ac anfantais mewn ysgolion
Mae ymchwil yn dangos bod gormod o blant yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi nad ydynt yn gyffredinol yn gwneud gystal â’u cyfoedion yn yr ysgol. Maent yn fwy tebygol o deimlo’n bryderus ynglŷn â’r ysgol na’u cyfoedion, ac o ymddieithrio mewn oed ifanc.
Penderfyniadau gwybodus: Gweithredu’r fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith - Hydref 2012
Nid yw llawer o ysgolion uwchradd yn gwybod beth yw effaith yr amser y maent yn ei dreulio yn helpu i baratoi disgyblion i wneud y penderfyniad cywir am eu llwybr gyrfa yn y dyfodol
Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd - Gorffennaf 2012
Mae llawer o fyfyrwyr Cymru yn dod yn fwy hyderus, yn gwella eu medrau hanfodol a chymdeithasol ac yn cael dealltwriaeth well o ystod o destunau o fenter i wleidyddiaeth a materion cyfoes trwy astudio Bagloriaeth Cymru.

