Adroddiadau thematig
Prif Gontractwyr y Ganolfan Byd Gwaith: Arolwg o effeithiolrwydd Prif Gontractau'r Fargen Newydd - Mawrth 2007
Arolwg o effeithiolrwydd Prif Gontractau’r Fargen Newydd, sef pecyn o raglenni sydd wedi’u cynllunio i gynnig profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.
Cyfranogiad plant a phobl ifanc (3-11 oed) mewn materion gwneud penderfyniadau lleol sy'n effeithio ar eu bywydau - Mawrth 2007
Mae cynghorau ysgol wedi helpu disgyblion i allu mynegi eu barn. Gall y math hwn o gyfranogi helpu hyder a hunan-barch disgyblion, a gall helpu iddynt baratoi ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.
Arweiniad rhyw a pherthynas - Mawrth 2007
Mae ansawdd yr addysgu ar ryw a pherthnasoedd yn amrywio ledled Cymru. Mae’r addysgu yn tueddu i fod yn ffeithiol ac nid yw dysgwyr yn cael y cyfle i drafod unrhyw faterion moesol neu emosiynol.
Cynnydd a wnaed wrth weithredu'r Cynllun Gweithredu Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol mewn ysgolion - Mawrth 2007
Cafwyd cynnydd da wrth roi’r Cynllun Gweithredu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion ar waith yn y rhan fwyaf o ysgolion. Mae’r fenter wedi helpu athrawon i fynd i’r afael â materion ysgol gyfan fel cynllunio pontio a datblygu medrau allweddol .
Trawsnewid ysgolion: papur trafod - Mawrth 2007
Nod y papur trafod hwn yw ennyn diddordeb pawb sydd â rhan mewn gwella addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r sefyllfa gyfredol, pam mae angen i ni newid a llawer o’r prif heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 - Arfer ysgolion ac awdurdodau addysg lleol wrth weithredu'u dyletswyddau - Chwefror 2007
Arfer ysgolion ac awdurdodau addysg lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

