Trosolwg

Rhannu |

Bob blwyddyn, mae’r Gweinidog Addysg yn gofyn i’r Prif Arolygydd, Ann Keane, am gyngor ar ystod o themâu’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant er mwyn helpu i lywio datblygu polisïau a monitro cynnydd.

Yn y llyfrgell hon, gallwch ddod o hyd i’r holl adroddiadau a gyhoeddwyd gennym fel rhan o’r gwaith hwn, gan gynnwys argymhellion, arfer orau ac astudiaethau achos.

Mae pob un o’r adroddiadau wedi’u ‘tagio’ i’w gwneud yn haws chwilio amdanynt yn ôl eu thema. Yn syml, cliciwch ar y tag perthnasol i ddod o hyd i bob adroddiad tebyg.

I weld ymatebion Llywodraeth Cymru i’n hadroddiadau thematig, ewch i’r adran Adroddiadau cylch gwaith Estyn ar eu gwefan.