Ein gwaith

Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n gorff y Goron a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 1992. Mae Estyn yn annibynnol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond mae’n derbyn ei gyllid gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Pwy rydym ni’n eu harolygu:

  • ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol;
  • ysgolion cynradd;
  • ysgolion uwchradd;
  • ysgolion arbennig;
  • unedau cyfeirio disgyblion;
  • ysgolion annibynnol;
  • addysg bellach;
  • colegau arbenigol annibynnol;
  • dysgu oedolion yn y gymuned;
  • gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc;
  • addysg a hyfforddiant athrawon;
  • Cymraeg i oedolion;
  • dysgu yn y gwaith; a
  • dysgu yn y sector cyfiawnder.

Cyngor ac Arweiniad

Rydym hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn cyhoeddi’r cyngor hwn yn ein hadroddiadau thematig, sy’n cael eu comisiynu gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

I ddarllen ymateb Llywodraeth Cymru i bob adroddiad, ewch i www.wales.gov.uk

Arfer orau

Yn olaf, rydym yn hyrwyddo lledaenu arfer orau mewn addysg a hyfforddiant.


Rydym yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 104 Llywodraeth Cymru 1998.

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.