Mae Estyn yn arolygu ansawdd a safonau mewn darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Rydym yn gyfrifol am arolygu:
- ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol;
- ysgolion cynradd;
- ysgolion uwchradd;
- ysgolion arbennig;
- unedau cyfeirio disgyblion;
- ysgolion annibynnol;
- addysg bellach;
- colegau arbenigol annibynnol;
- dysgu oedolion yn y gymuned;
- gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc;
- addysg a hyfforddiant athrawon;
- dysgu yn y gwaith;
- cwmnïau gyrfaoedd; a
- dysgu troseddwyr.
Yn ychwanegol, rydym hefyd:
- yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru; ac
- yn hyrwyddo lledaenu arfer dda mewn addysg a hyfforddiant.
Rydym yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 104 Llywodraeth Cymru 1998.
