Yn awr yn fwy nag erioed mae’n hanfodol i bawb sy’n gweithio mewn addysg a hyfforddiant i wneud yn siwr eu bod yn ymdrechu i gyflawni’r safonau uchaf ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.
Mae Estyn yn cydnabod ei sefyllfa unigryw, annibynnol o ran hwyluso’r cyfle i arddangos rhywfaint o’r arfer ragorol a welwn ar waith ar draws yr holl sectorau a arolygwn, o ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar i golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith.
Yn yr adran hon byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos ysgrifenedig yn rheolaidd, yn esbonio sut y mae darparwyr addysg a hyfforddiant unigol wedi rhagori mewn maes penodol. Er enghraifft, gallwch ddarllen am lwyddiant Ysgol Gynradd Cwm Glas yn cyflwyno cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau.
Dewiswch y sector perthnasol neu chwiliwch gydag allweddair, gan ddefnyddio’r chwiliad manylach ar frig y dudalen hon.
Hefyd, fel rhan o Adroddiad Blynyddol Estyn 2009-2010, cynhyrchom gyfres o ffilmiau arfer orau y gallwch eu gweld yma.
