Astudiaethau achos: Addysg bellach, hyfforddiant a dysgu gydol oes
Arwain dysgwyr ledled Cymru trwy esiampl
Mae ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn annog ei ddysgwyr i fod ag ymagwedd gyfannol tuag at eu llwybr gyrfa ac wedi ysbrydoli dysgwyr Harddwch a Thrin Gwallt i ennill cofrestriad gwladol. Mae’r cwmni hyfforddi wedi ymgymryd ag ymgyrch genedlaethol fawr i godi proffil y cymhwyster lefel 3 sydd ei angen i ennill cofrestriad gwladol, gan sicrhau bod ei ddysgwyr ei hun wedi’u hysgogi’n wirioneddol i symud ymlaen yn y diwydiant, yn ogystal â rhannu’r neges hon â dysgwyr eraill ledled Cymru.
Mae’r byd i gyd o’u blaenau
Mae ISA Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi codi dyheadau dysgwyr sy’n astudio Harddwch a Thrin Gwallt trwy gynnig cyfleoedd newydd iddynt trwy Strategaeth Oyster. Mae’r strategaeth yn cynnig diwrnodau blasu, teithiau cyfnewid a blynyddoedd i ffwrdd sydd wedi ehangu gorwelion dysgwyr wrth wella eu gallu i ddatblygu medrau hanfodol, gwybodaeth dechnegol a hyder yn y gweithle.
Coleg yn datblygu partneriaeth Cymru – Affrica
Mae’r bartneriaeth sy’n datblygu rhwng Coleg Gŵyr Abertawe ac Ysgol Gynradd Madungu yn Kenya wedi gwella datblygiad addysgol, cymdeithasol a deallusol myfyrwyr yn y ddau sefydliad. Dros y naw mlynedd diwethaf, mae’r prosiect wedi cyfrannu at liniaru tlodi drwy wella darpariaeth addysgol yn ardal Sigomre yng Ngorllewin Kenya ac wedi galluogi myfyrwyr i ddatblygu’u gwybodaeth am ddinasyddiaeth fyd-eang, cyfranogi mewn gweithgareddau codi arian a chymryd rhan mewn profiadau sy’n newid bywyd.
Adroddiad arolygiad
Dathlu amrywiaeth
Mae’r Ffair Amrywiaeth flynyddol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu ac yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ar amrywiaeth trwy gynnwys myfyrwyr mewn ystod o brofiadau a gweithgareddau dysgu gwahanol. O’r celfyddydau perfformio i gwisiau elusen, gweithdai a stondinau, mae’r digwyddiad yn denu rhyw 1,000 o fyfyrwyr i ddod a chymryd rhan yn yr achlysur bywiog hwn.
Adroddiad arolygiad
Diben a chyfeiriad clir = llwyddiant
Ers ei sefydlu ym 1993, mae Coleg Cymunedol YMCA Cymru wedi sefydlu’i hun fel un o’r prif ddarparwyr dysgu troseddwyr, hyfforddiant gwaith ieuenctid a dysgu a datblygu cymunedol.
Adroddiad arolygiad
Coleg yn cefnogi anghenion dysgu unigol
Mae Coleg Llandrillo Cymru, gogledd Cymru, yn ymroi i gefnogi pob myfyriwr, gan gynnig ymateb teilwredig i anghenion unigol. Yn sgil cael cymorth gan y coleg i oresgyn rhwystrau sylweddol rhag dysgu, llwyddodd un dyn ifanc i ennill y medrau rhifedd a oedd yn ofynnol i gael lle ar gwrs adeiladu.

