Astudiaethau achos: Lleoliadau nas cynhelir

Manteisio ar gefnogaeth a chryfder y gymuned leol

Mae rhan annatod y gymuned ym mywyd, gweithgareddau a datblygiad y Cylch lleol yn ganolog i lwyddiant Cylch Meithrin Talgarreg yng Ngheredigion.

Camau syml tuag at wella

Trwy gydweithio’n agos gyda’r ysgol gynradd gyfagos, mae staff yn Camau Bach Cedwyn ym Mhowys wedi gwella eu gwybodaeth, eu cynllunio a’u dulliau asesu wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o egwyddorion y Cyfnod Sylfaen.

O ganlyniad i’r profiadau dysgu o ansawdd uchel, daw plant yn ddysgwyr brwdfrydig, hyderus ac annibynnol iawn, maent yn datblygu medrau corfforol, iaith a mathemategol da iawn, ac yn dangos medrau creadigol rhagorol.

Hyrwyddo lles yn arwain at fwy o annibyniaeth i ddysgwyr

Mae 3@Cradoc ym Mhowys yn annog plant i ddatblygu eu medrau dysgu’n annibynnol yn yr ystafell ddosbarth. Fel rhan o’r dull hwn, gall plant ddewis byrbrydau a diodydd iach o system hunanwasanaeth yn yr ystafell ddosbarth trwy gydol pob sesiwn. Mae hyn wedi helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth dda o’r mathau o fwydydd sy’n rhoi maetholion hanfodol ac yn iach. Mae wedi arwain at lefelau uchel o annibyniaeth hefyd wrth i blant fynd ati’n hyderus i flasu gwahanol ddewisiadau o fwyd, gan gynnwys bwydydd sy’n tarddu o dreftadaeth a diwylliant penodol.

Adroddiad arolygiad

Ymagwedd holistig at les

Mae Cylch Meithrin Ynysybwl yn Rhondda Cynon Taf yn cefnogi lles plant gan ddefnyddio sawl strategaeth wahanol. O gynnwys rhieni a’r gymuned, i neilltuo amser gyda phlant unigol, mae’r lleoliad wedi mynd o nerth i nerth.

Adroddiad arolygiad

Mae’r feithrinfa yn cynnig profiad dysgu personol i bob plentyn

Mae Cylch Chwarae Cadwgan, Conwy, yn trin pob plentyn fel unigolyn, gan greu profiadau dysgu personol i fodloni eu hanghenion penodol. Mae defnyddio ymarferwyr dynodedig, sy’n gyfrifol am asesu a chynllunio dysgu grwpiau bach o blant, yn helpu i sicrhau bod profiadau dysgu’n cael eu gweddu’n ofalus i anghenion plant unigol.

Adrodiad arolygiad

Olrhain dilyniant drwy asesu cadarn

Mae Meithrinfa Ddydd Little Inspirations, Rhondda Cynon Taf, yn defnyddio dulliau asesu cadarn i olrhain dilyniant medrau plant. O ganlyniad i arsylwi gofalus a thrafod a chofnodi cynnydd plant yn rheolaidd, mae staff yn cynllunio gweithgareddau cyffrous ac ysgogol sy’n bodloni anghenion a diddordebau’r holl blant.

Adrodiad arolygiad

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.