Astudiaethau achos: Ysgolion arbennig
Cynllunio effeithiol a disgwyliadau uchel: y gyfrinach i lwyddiant
Mae strategaethau asesu effeithiol, cynllunio sy’n canolbwyntio ar y plentyn a disgwyliadau uchel wedi sicrhau bod disgyblion yn Ysgol Pen Coch, Sir y Fflint wedi gwneud cynnydd da trwy gael y math cywir o gymorth a dysgu.
Mae technoleg yn chwarae rhan sylweddol mewn helpu disgyblion gyflawni’u potensial
Mae Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn, Caerdydd, wedi buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu newydd i helpu gwella medrau cyfathrebu’r disgyblion a chwalu rhwystrau rhag dysgu.
Arwain y ffordd ar-lein
Mae Ysgol Maes Hyfryd, Sir y Fflint, wedi buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf i wella addysgu a dysgu ac i ddarparu’r medrau i fyfyrwyr y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol, a sicrhau eu diogelwch ar-lein hefyd. Mae staff yn defnyddio offeryn meddalwedd penodol sy’n gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) ac ar draws y cwricwlwm. Mae wedi cyfrannu at ddull dysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar y myfyriwr ac mae wedi hyrwyddo mwy o annibyniaeth ar draws yr ysgol.
Adroddiad arolygiad
Athroniaeth cynhwysiant
Mae gan Ysgol Maes Hyfryd, Sir y Fflint, athroniaeth glir, sef bod hawl gan bob myfyriwr i gael ei anghenion wedi’u bodloni. Er bod gan ddisgyblion ystod eang o anghenion addysgol arbennig, manteisiodd yr ysgol ar uno tair ysgol arbennig er mwyn datblygu rhaglen cynhwysiant sy’n cynnig llwybrau unigol gwahanol a phriodol. Mae’r llwybrau hyn yn galluogi tua hanner y disgyblion hyn i fynychu dosbarthiadau prif ffrwd, datblygu eu medrau, eu hyder a’u hannibyniaeth ac i ddilyn cyrsiau achrededig.
Adroddiad arolygiad
Mae amgylchedd diogel a chadarn yn helpu disgyblion i ffynnu
Yn Ysgol Maes Dyfan, mae disgyblion yn elwa ar sesiynau un i un gydag Anogwr Dysgu, ac mae hyn wedi gwella eu medrau cyfathrebu, wedi magu eu hyder ac wedi cynyddu eu hunanymwybyddiaeth.
Adroddiad arolygiad
Ffocws cryf ar anghenion dysgu disgyblion
Fe wnaeth Ysgol Tŷ Coch, sef ysgol breswyl, addasu rhaglen medrau meddwl ac asesu ar gyfer dysgu Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus i fodloni anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu a chorfforol dwys a disgyblion ag awtistiaeth. Mae disgyblion wedi cynyddu eu medrau siarad a gwrando, eu hyder a’u hunan-barch.

