Astudiaethau achos: Ysgolion cynradd
Disgyblion yn gwella effeithiolrwydd ysgol
Mae grŵp o blant ym mlynyddoedd 5 a 6 yn Ysgol Pen-y-bryn, Gwynedd, wedi chwarae rhan ganolog yn adolygu llawer o agweddau ar waith yr ysgol. Aeth y disgyblion hyn ati’n arbennig o fanwl i edrych ar drefniadau gwaith cartref a gweithgareddau sy’n helpu disgyblion i ddatblygu’u medrau meddwl. Mae eu gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol, ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at welliannau ym medrau meddwl y disgyblion a’u hunanhyder. Mae safonau’n dda iawn at ei gilydd, a bu cryn welliannau mewn deilliannau yng nghyfnod allweddol 2 yn y tair blynedd diwethaf.
Cymraeg ail iaith sy’n dod yn gyntaf
Mae safonau mewn Cymraeg ail iaith yn Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug, Ceredigion, yn rhagorol, er bod llai nag 1% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn brif iaith. Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i baratoi disgyblion i ddod yn rhan o gymdeithas ddwyieithog sy’n hyrwyddo’r defnydd o Gymraeg yn gryf. Mae llawer o’r staff wedi elwa ar ystod o gyrsiau a dosbarthiadau sydd wedi helpu iddynt wella eu medrau dwyieithog ac addysgu’n fwy effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Adroddiad arolygiad
Cyflawni canlyniadau mewn llythrennedd
Mae Ysgol Gynradd Trerobart, Rhondda Cynon Taf, yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion. Mae cynllunio gofalus, effeithiol, o ansawdd uchel yn sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion yn cael eu plethu drwy’r cwricwlwm cyfan. Mae staff yn cynnal archwiliadau o fedrau i sicrhau bod dilyniant a pharhad priodol mewn dysgu disgyblion.
Adroddiad arolygiad
Dysgu proffesiynol yn gwella ansawdd addysg ac yn helpu i wella deilliannau
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae tair ysgol gynradd ym Mro Morgannwg wedi cydweithio’n agos i wella dysgu ac addysgu yn eu hysgolion. Mae’r athrawon a’r staff uwch yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Ysgol Gynradd Rhws ac Ysgol Gynradd Romilly wedi sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol llwyddiannus, er enghraifft, yn canolbwyntio ar asesu ar gyfer dysgu, gwella gwaith gwyddoniaeth archwiliol a gwella’r defnydd ar yr amgylchedd awyr agored. Mae’r prosiectau hyn wedi helpu i wella ansawdd yr addysg ac maent wedi galluogi dysgwyr i gyflawni deilliannau gwell.
Adroddiad arolygiad - Ysgol Gynradd Ynys y Barri, Ysgol Gynradd Rhws, Ysgol Gynradd Romilly
Datblygu medrau llythrennedd trwy ddefnyddio technoleg ddigidol
Mae Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe, yn datblygu medrau llythrennedd disgyblion yn systematig ar draws yr holl feysydd pwnc, gan ymgorffori’r medrau hyn ym mhob agwedd ar ddysgu’r disgyblion. Trwy ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi datblygu medrau llythrennedd disgyblion, mae’r ysgol wedi creu adnoddau darllen ysgogol fel testun wedi’i recordio ymlaen llaw ar iPods sy’n annog disgyblion i fod yn ddarllenwyr gweithredol a llawn cymhelliant.
Adroddiad arolygiad
Yr iaith Gymraeg ar flaen y gad
Mae Ysgol Comins Coch, Ceredigion, ar flaen y gad yn addysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae disgyblion yn datblygu eu medrau trwy raglen drochi eang a thrwy astudio agweddau penodol ar y cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau hefyd, o ddathlu dydd Gŵyl Dewi i fynychu Canolfan Iaith Gymraeg sy’n eu helpu i ddatblygu eu medrau Cymraeg.

