Astudiaethau achos: Ysgolion uwchradd
Targedau uchelgeisiol yn gwella perfformiad disgyblion
Mae gan Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot, ddisgwyliadau uchel o’i disgyblion. Trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddata asesu, mae’r ysgol yn gosod targedau heriol i bobl disgybl ym mhob pwnc ac mae’n monitro cynnydd disgyblion tuag at gyflawni’r targedau hyn yn ofalus. Mae system fentora drylwyr yn cefnogi disgyblion nad ydynt yn gwneud cynnydd addas ac mae’n sicrhau hefyd na chaniateir i ddisgyblion mwy abl a dawnus berfformio islaw eu gallu.
Gwella darpariaeth Gymraeg
Mae Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin wedi mabwysiadu dull arloesol a hyblyg o ddatblygu ei chwricwlwm trwy gynyddu ystod y pynciau a’r modiwlau a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn dibynnu ar eu diddordebau, eu hanghenion a’u dyheadau penodol. Mae’r datblygiadau hyn wedi cynyddu cyfran y disgyblion sy’n medru’r Gymraeg ac wedi gwella safonau llythrennedd Cymraeg. Mae’r iaith Gymraeg yn nodwedd amlwg a chynhwysol o fywyd yr ysgol erbyn hyn.
Adroddiad arolygiad
Effaith gadarnhaol arweinyddiaeth wasgaredig
Mae Ysgol Uwchradd y Fflint, Sir y Fflint, wedi sefydlu gweledigaeth ac ymdeimlad o gyfeiriad newydd yn llwyddiannus. Mae mwy o bwyslais ar arweinyddiaeth wasgaredig wedi grymuso staff yn fwy effeithiol ar bob lefel. Mae ymrwymiad disgyblion a rhieni i’r weledigaeth hon wedi helpu i wella dyheadau, wedi newid diwylliant yr ysgol ac wedi cyfrannu at fwy o ymdeimlad o falchder yn yr ysgol. O ganlyniad, mae deilliannau disgyblion wedi gwella’n sylweddol. Mae’r ethos gwahanol i’w weld yn arbennig yn y lefelau parch, yn y perthnasoedd gwaith ac yn ymddygiad disgyblion a’u cyfranogiad yn y dysgu.
Adroddiad arolygiad
Deialog broffesiynol effeithiol
Yn Ysgol Bryngwyn, Sir Gaerfyrddin, mae athrawon o wahanol adrannau yn gweithio mewn ‘triawdau’ (grwpiau o dri) i helpu ei gilydd i wella ansawdd eu haddysgu. Mae’r manteision a ysgogwyd gan y ‘triawdau’ hyn, sydd wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a deialog broffesiynol agored, wedi arwain at welliannau sylweddol yn ansawdd dysgu’r disgyblion.
Adroddiad arolygiad
Myfyrwyr chweched dosbarth yn elwa o bartneriaeth leol
Mae’r gwaith mewn partneriaeth rhwng Bishop Vaughan Catholic School ac Ysgol Gyfun Treforys, Abertawe, yn rhoi dewis eang o bynciau a chyrsiau galwedigaethol i fyfyrwyr chweched dosbarth ar draws y ddau safle. Trwy’r strategaethau a gynlluniwyd yn dda a roddwyd ar waith i sicrhau effeithiolrwydd y bartneriaeth hon, bu effaith gadarnhaol ar safonau addysg, nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant a’r cyfleoedd a gaiff myfyrwyr i gyflawni eu potensial.
Adroddiad arolygiad - Bishop Vaughan Catholic School, Ysgol Gyfun Treforys
Dull arloesol a thematig o gynllunio’r cwricwlwm ym Mlwyddyn 7 yn helpu i ddatblygu medrau llythrennedd disgyblion
Mae Ysgol Eirias, Conwy wedi sefydlu dull thema o gynllunio’r cwricwlwm ym Mlwyddyn 7 sydd wedi gwella safonau llythrennedd a helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau dysgu annibynnol. Mae’r rhaglen yn cydnabod bod medrau llythrennedd da yn ategu dysgu effeithiol ar gyfer pob disgybl, waeth pa bwnc neu thema y maent yn ei (h)astudio. Mae cynllunio gofalus yr ysgol yn helpu disgyblion i ddatblygu ystod o fedrau ac yn eu paratoi’n dda ar gyfer cyflawni a llwyddo mewn addysg, bywyd a’r gymuned ehangach a byd gwaith.

