Astudiaethau achos: Ysgolion uwchradd
Ehangu gorwelion
Mae dwy ysgol cyfrwng Cymraeg yn Abertawe, sef Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe wedi rhoi mwy o ddewis i ddisgyblion 14-19 oed ynghylch dysgu ac amrywiaeth ehangach o brofiadau, diolch i’w gwaith partneriaeth a’r ffaith eu bod yn rhannu adnoddau.
Adroddiad arolygiad
Mae’r cyfan yn cyfrif
Yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe, mae myfyrwyr wedi defnyddio’u profiad bywyd go iawn o brynu car i ddatblygu’u medrau rhif ac i gyflawni lefel 3 ym Magloriaeth Cymru.
Adroddiad arolygiad
Gydag ychydig bach o help llaw gan fy ffrindiau
Mae cynllun arsylwi addysgu cymheiriaid yn llwyddiant mawr yn Ysgol Olchfa, De Cymru. Mae’r gwasanaeth ‘ffrind beirniadol’ yn galluogi cydweithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf a chael cyngor adeiladol, tra’n cydnabod, yn atgyfnerthu ac yn rhannu arfer dda ar draws adrannau.
Adroddiad Arolygiad
Coeliwch y BROLIANT a SIARADWCH amdano!!!
Mae 100% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol. Mae 100% o ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch eu Grŵp Dosbarth.
Rhy dda i fod yn wir?
Adroddiad Arolygiad
Disgyblion SMART De Cymru
Mae disgyblion yn Ysgol Olchfa, Abertawe, yn fwy myfyriol, hyderus ac annibynnol, diolch i raglen arloesol a ddatblygwyd gan dîm o ymarferwyr profiadol, ac yn cael ei rhedeg ganddynt.
Adroddiad Arolygiad
Hanes o wydnwch a dyfalbarhad
Mae disgyblion yn Ysgol Sandfields ym Mhort Talbot, De Cymru, yn gwneud cynnydd da mewn darllen, ysgrifennu a datrys problemau er bod llawer ohonynt yn wynebu heriau dysgu, cymdeithasol ac economaidd anodd.

