Os hoffech wneud sylwadau, canmol, neu godi pryder am ein gwaith, cysylltwch â:
Lisa Jordaan
Rheolwr Adborth a Chwynion
02920 446326
adborth@estyn.gov.uk.
Os hoffech wybodaeth mewn iaith arall heblaw am Gymraeg neu Saesneg, cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Sut ydw i’n gwneud cwyn am Estyn?
Hoffem glywed eich barn am ein gwaith a sut mae’n effeithio arnoch chi. Bydd eich awgrymiadau, eich canmoliaeth a’ch cwynion yn ein helpu ni i gydnabod gwaith o ansawdd uchel yn ogystal â gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.
Gallwch gwyno am ein gwaith, a gallai hyn gynnwys:
- safon ac ansawdd ein gwasanaethau neu’n cynnyrch;
- cynnwys ein hadnoddau neu’n gwefannau;
- ymddygiad aelod o’n staff; a
- manylion anghywir, cyfeiriadau at drydydd partïon a hepgoriadau cyd-destunol allweddol.
Mae rhai pethau na allwn ddelio â nhw trwy ein gweithdrefn ar gyfer delio â chwynion. Mae’r rhain yn cynnwys cwynion, gan gynnwys heriau, ynghylch:
- barnau a wnaed ar ôl arolygiad neu adolygiad gan Estyn, oherwydd cyn ac yn ystod arolygiad, mae’r ysgol, y coleg neu’r gwasanaeth yn cael cyfle i ddarparu’r holl dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer y tîm arolygu i lunio’i barnau yn gywir ac yn deg;
- sefydliad yr ydym yn ei arolygu ac yn gweithio gydag ef. Os oes gennych gŵyn am sefydliad, fel ysgol, rhaid i chi ddilyn ei weithdrefn gwyno ei hun yn y lle cyntaf; a
- pholisïau sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. Os oes gennych gŵyn am bolisi a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Dyma eu gwefan: www.cymru.gov.uk.
Mae’n rhaid i Estyn fodloni graddfeydd amser statudol felly ni fydd fel arfer yn oedi o ran cyhoeddi adroddiad arolygu tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i gŵyn.
Beth ddylwn i wneud os bydd gennyf gŵyn am fy ysgol?
Os bydd gennych gŵyn am ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall, dylech godi’ch pryderon gyda’r darparwr yn y lle cyntaf. Nid yw Estyn yn ymchwilio i gŵynion mewn perthynas â gweithgareddau ysgolion neu ddarparwyr unigol, nac yn mynd i’r afael â nhw. Yn gyntaf, dylech godi’ch pryderon yn ffurfiol trwy weithdrefn gwyno’r ysgol. Os na fyddwch yn fodlon bryd hynny, dylech godi’r gŵyn gyda’r Cyfarwyddwr Addysg neu gyfwerth yn yr Awdurdod Lleol.
Beth ddylwn i wneud os ydw i am roi gwybod am fater yn ymwneud â diogelu plant?
Dolen gyswllt i adran Estyn ar Ddiogelu
Adnoddau eraill
Mae Cwynion Cymru yn wasanaeth cyfeirio dros y ffôn ac ar y we sy’n cynnig cyngor ar sut i gwyno am wasanaeth cyhoeddus.

