Gwybodaeth i ddisgyblion a dysgwyr

Rhannu |

Mae arolygu’n dweud wrthych am y safonau ac ansawdd yn eich ysgol, coleg neu ddarparwr addysg a hyfforddiant arall. Mae ein harolygwyr yn adrodd ar yr hyn mae’r darparwr yn ei wneud yn dda a’r hyn nad yw’n gwneud gystal, a’r hyn y gellir ei wneud i wella’r addysg a’r hyfforddiant y maent yn ei gynnig. I weld adroddiad arolygu, cliciwch yma.

Mae’n bwysig iawn i ni glywed eich barn pan fyddwn yn ymweld ag ysgol neu ddarparwr addysg a hyfforddiant. Gallwch lenwi holiadur cyn i ni gyrraedd, neu gallwch siarad gyda’r arolygwyr pan fyddant yn ymweld.

I gael mwy o wybodaeth am arolygu neu i lenwi holiadur, lawrlwythwch y cyhoeddiadau isod.

I gael holiaduron dysgwyr mewn ieithoedd ychwanegol, cliciwch yma.

 

Pa wybodaeth yr hoffech ei weld ar y dudalen hon? Afonwch eich sylwadau a’ch syniadau i gwefan@estyn.gov.uk.

 

Questionnaire for Learners primary cy

Holiadur ar gyfer Dysgwyr (Ysgol Gynradd)

Cyfle i ddysgwyr roi eu barn ar eu haddysg neu’u hyfforddiant, cyn arolygiad.

 
Questionnaire for Learners secondary

Holiadur i Ddysgwyr (Ysgolion Uwchradd)

Cyfle i ddysgwyr roi eu barn ar eu haddysg neu’u hyfforddiant, cyn arolygiad.

 
 
Questionnaire for Learners post 16

Holiadur i Ddysgwr (yn y sectorau ôl-16)

Cyfle i ddysgwyr roi eu barn ar eu haddysg neu’u hyfforddiant, cyn arolygiad.

 
Understanding inspectoin in post 16 learners cy

Deall arolygiadau yn y sector ôl-16: canllaw i ddysgwyr

Mae arolygu yn dweud wrthych am y safonau a’r ansawdd yn eich darparwr addysg a hyfforddiant… cewch wybod mwy yma.

 
Glossary of Terms 2009

Rhestr o dermau arolygu

Canllaw i’r geiriau a’r termau rydyn ni’n eu defnyddio yn ein cyhoeddiadau.