Crynodeb
Er 2005, ychydig iawn o welliant sydd wedi bod mewn safonau cyrhaeddiad yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3. At ei gilydd, mae merched yn parhau i berfformio’n well na bechgyn, er bod y bwlch mewn perfformiad yn fach. Mae bechgyn mwy abl a dawnus yn perfformio’n dda.
Mewn ysgolion cynradd lle mae safonau rhifedd yn dda, caiff disgyblion gyfle i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm cyfan. Dim ond rhai ysgolion uwchradd sy’n cynnig yr un cyfle.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- elwa ar gyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm;
- cynllunio’n ofalus i wneud yn siŵr bod disgyblion wedi dysgu’r medrau angenrheidiol mewn mathemateg cyn bod eu hangen arnynt mewn mannau eraill;
- cynorthwyo disgyblion sy’n gwneud y cynnydd lleiaf; a
- gwneud defnydd gwell o wybodaeth am gyflawniadau disgyblion mewn rhifedd pan fyddant yn trosglwyddo i’r sector uwchradd.
Dylai awdurdodau lleol:
- fonitro rhaglenni ymyrraeth rhifedd mewn ysgolion yn fwy trylwyr i wybod a ydynt yn cynnig gwerth am arian; a
- gwneud yn siŵr bod ysgolion yn olrhain cynnydd disgyblion yn fwy trylwyr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- barhau i drefnu bod cyllid ar gael i awdurdodau lleol ac ysgolion i wella medrau rhifedd; a
- ceisio cael awdurdodau lleol ac ysgolion i ddeall bod angen datblygu dull strategol o gynllunio, monitro ac arfarnu rhaglenni ymyrraeth targedig.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Arfer orau
Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o Ysgol Uwchradd Penarlâg, Ysgol Bryn Elian, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Sir y Fflint, Ysgol Gynradd Pillgwenlli, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol Bryngwyn, Ysgol Gyfun Pontarddulais, Ysgol Iau Llangennech, a Chyngor Sir Gâr.

