Dewis a hyblygrwydd I ddysgwyr 14-19 oed - Mawrth 2008

Crynodeb

Mae’r dewis o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr yn cynyddu. Yr enghraifft orau yw ble mae ysgolion a cholegau wedi cynllunio darpariaeth gyda’i gilydd. Fodd bynnag, nid oes gan y rhan fwyaf o ddysgwyr yr hyblygrwydd i ddewis o’r ystod lawn a’r math o gyrsiau sydd ar gael yn eu hardal. Mae eu cyfleoedd yn dibynnu’n ormodol ar y cyrsiau a gynigir gan y darparwyr y maent yn eu mynychu.

Mae’r ddarpariaeth yn y sector ôl-16 yn fwy amrywiol. Gall bron pob dysgwr ddewis cyrsiau sy’n eu galluogi i ddilyn y llwybr dysgu o’u dewis.

Argymhellion

Dylai darparwyr:

  • sicrhau bod eu hamserlenni yn cyd-fynd â rhai darparwyr eraill ac ystyried y bylchau mewn dewislenni opsiynau lleol wrth gynllunio eu darpariaeth;
  • rhoi gwybodaeth glir, gywir a diduedd i ddysgwyr am y dewisiadau sydd ar gael iddynt; a
  • chynyddu’r ystod o gyrsiau galwedigaethol sydd ar gael i bob dysgwr.

Dylai rhwydweithiau:

  • sicrhau bod gan bob darparwr, staff, dysgwr a rhiant ddealltwriaeth glir o Lwybrau Dysgu 14-19 ac o’r dewisiadau sydd ar gael i ddysgwyr; ac
  • archwilio ffyrdd o gael ymglymiad llawn darparwyr dysgu yn y gwaith.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatblygu strategaeth gyfathrebu er mwyn sicrhau bod darparwyr, dysgwyr a rhieni yn cael eu hysbysu’n well am ddiben Llwybrau Dysgu 14-19 a dewislenni opsiynau.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Arfer orau

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o ysgolion a darparwyr amrywiol.

Categoriau:

Adroddiadau thematig

Tagiau:

14-19

Cyhoeddwyd:

2008

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.