Crynodeb
Mae cyfraddau presenoldeb disgyblion sy’n Sipsi Deithwyr a’u lefelau cyrhaeddiad yn parhau i fod yn rhy isel, er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff dynodedig y Gwasanaeth Addysg i Deithwyr dros gyfnod hir.
Prin yw’r ysgolion sydd â pholisïau neu arferion sy’n mynd i’r afael yn benodol ag anghenion disgyblion sy’n sipsiwn a theithwyr, a phrin yw’r rhai sy’n cynnig cwricwlwm sy’n mynd ati i hyrwyddo diwylliant Sipsiwn a Theithwyr.
Cynhaliwyd ein hadolygiad diwethaf o’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n Sipsiwn a Theithwyr yn 2005; mae’r adroddiad hwn yn ddiweddariad i’r adroddiad blaenorol, sef Addysg Dysgwyr sy’n Sipsi Deithwyr. Aethpwyd i’r afael ag un yn unig o’r argymhellion o’r adroddiad hwn.
Argymhellion
Dylai awdurdodau lleol ac ysgolion:
- barhau i ddod o hyd i ffyrdd o wella cyfraddau presenoldeb plant sy’n Sipsi Deithwyr mewn ysgolion uwchradd;
- sicrhau bod gan bob ysgol bolisïau sy’n mynd i’r afael ag anghenion penodol disgyblion sy’n Sipsi Deithwyr; a
- sicrhau bod y cwricwlwm yn hyrwyddo’r agweddau cadarnhaol ar ddiwylliant Sipsi Deithwyr, yn enwedig mewn ysgolion lle mae’r grŵp hwn o ddisgyblion ar y gofrestr.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- sicrhau bod y data a gesglir ar ddisgyblion sy’n Sipsi Deithwyr yn gywir a chyson; ac
- ystyried ffyrdd y gellir dyrannu cyllid fel ei fod yn rhoi mwy o bwyslais ar anghenion disgyblion oedran uwchradd.
I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.
Arfer orau
Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o wasanaeth addysg i deithwyr Abertawe, Ysgol Uwchradd Sant Julian, Ysgol Uwchradd Babyddol Sant Joseff, Ysgol Gyfun Penyrheol, gwasanaeth addysg i deithwyr Sir y Fflint, gwasanaeth addysg i deithwyr Caerdydd, ac Ysgol Uwchradd Y Trallwng.

