Mae staff yn Ysgol Gynradd Cwm Glas wedi aildrefnu’r ffordd y maent yn cynllunio gwaith. Mae disgyblion yn defnyddio cyfnodolion i gofnodi’r medrau y maent yn eu dysgu a lle gellir defnyddio’r medrau hyn.
Yr effaith: gwelliant mewn cyrhaeddiad cyffredinol, a gwelliant sylweddol o ddealltwriaeth disgyblion o fedrau trosglwyddadwy.

