Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Blaengwawr gynllunio prosiect ar y cyd gyda chartref gofal preswyl lleol. Gweithiodd disgyblion o Flwyddyn 5 a Blwyddyn 6 gyda’r preswylwyr ar brosiectau hanes, llythrennedd a chreadigol.
Cafodd y prosiect effaith ar allu’r disgyblion i gyfathrebu’n effeithiol. Mae cyrhaeddiad disgyblion wedi gwella hefyd.

