Yn Ysgol Olchfa, mae staff yn rhan o gynllun arsylwi addysgu cymheiriaid (LATOG). Mae athrawon yn cynnig cyngor a chymorth i’w gilydd, ac yn rhannu arfer dda ar draws adrannau.
Mae’r cynllun hwn wedi sicrhau bod cysondeb o ran safonau addysgu ar draws pob maes pwnc ac mae canfyddiadau staff yn cyfrannu at hunanarfarniad yr ysgol, cynllun datblygu’r ysgol a datblygiad proffesiynol parhaus.

