Medrau ar gyfer dysgwyr hŷn: effaith dysgu oedolion yn y gymuned ar les dysgwyr hŷn - Ionawr 2012

Crynodeb

Mae’r 15 partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Cymru yn cynnig dysgu gydol oes i ddysgwyr hŷn yn y gymuned. Ond, oherwydd bod y pwyslais ar ddatblygu medrau ar gyfer gwaith, nid yw hyn yn addas i ddysgwyr dipyn hŷn, sydd â mwy o ddiddordeb mewn gweithgareddau cyfoethogi ar yr adeg honno o’u bywyd. Gallai’r gweithgareddau hyn fod yn gyrsiau ar ddiddordebau neu sgiliau crefftau neu’n gyrsiau sy’n eu helpu i fyw bywyd iach a chynnal eu lles.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • fonitro gweithredu’r polisi cyflenwi dysgu cymunedol i wella cydweithio ar drawsyr adrannau, cyfarwyddiaethau a’r canghennau sy’n gyfrifol am bobl hŷn; a
  • chasglu data ynghylch cyfleoedd dysgu yn y Monitor Pobl Hŷn, fel ei fod yn monitro lles trwy ddysgu yn ogystal â chael gwaith.

Dylai’r Adran Addysgu a Sgiliau:

  • gydweithio ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru i gronni pob cyllideb sydd â’r nod o gefnogi dysgu gydol oes a lles pobl hŷn;
  • cytuno ar ddangosyddion perfformiad neu fesurau deilliant i bartneriaethau DOG fonitro eu gwaith gyda phobl hŷn a’u cynorthwyo i fyw’n annibynnol; ac
  • annog a chynorthwyo partneriaethau DOG i gynorthwyo pobl hŷn i drefnu a rheoli eu dysgu eu hunain.

Dylai partneriaethau DOG:

  • gynyddu hyblygrwydd mewn dulliau cyflwyno, yn newisiadau’r cwricwlwm, hyd sesiynau a’r dulliau asesu ar gyfer pobl hŷn, yn enwedig y rhai dros 70 oed.

Dylai awdurdodau lleol:

  • sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn gwella eu defnydd o arbenigedd partneriaethau DOG mewn cyflwyn.
     

 Astudiaethau achos arfer orau

Gallwch ddarllen yr enghreifftiau canlynol o arfer orau yn Atodiad 1 yr adroddiad llawn:

  • Partneriaeth DOG Caerffili: cefnogi medrau ar gyfer gwaith a lles
  • Mae partneriaeth DOG Caerffili yn cydweithio â Phartneriaethau Cymunedol
  • Mae partneriaeth DOG Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi hawliau lles
  • Partneriath DOG Blaenau Gwent: cydweithio i hyrwyddo medrau cyflogaeth
  • Mae rhaglen Heneiddio’n Dda Ynys Môn yn cynnwys hyfforddi monitoriaid cymheiriaid
  • Mae gan bartneriaeth DOG Abertawe ganolfan ddysgu gymunedol i bobl hŷn

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.