Addysg gorfforol mewn ysgolion uwchradd - Chwefror 2012

Crynodeb

Cyflawnodd mwy o ddisgyblion radd A*-C mewn addysg gorfforol mewn TGAU yn 2011 nag yn 2010. Mae mentrau fel cynllun gweithredu Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion a menter 5x60 wedi helpu ehangu ystod y gweithgareddau sydd ar gael i ddisgyblion, a’r cynnydd yng nghyfranogiad merched mewn gweithgarwch corfforol.

Yn yr ysgolion y gwnaethom arolwg ohonynt, roedd safonau addysgu yn dda neu’n well mewn tua thri chwarter o’r gwersi a arsylwyd gennym. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o wersi, nid yw athrawon yn cynllunio’n ddigon da i sicrhau bod disgyblion o bob gallu yn gwneud cynnydd. Nid oes gan bob disgybl y gallu i ddysgu’n annibynnol, na bod yn arweinydd.

Argymhellion

Dylai adrannau addysg gorfforol:

  • wneud yn siŵr bod gwersi yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion gadw’n gorfforol egnïol ac ymgymryd â gweithgarwch corfforol cynaliadwy; a
  • cynnig gweithgareddau dysgu a fydd yn galluogi disgyblion o bob gallu i wneud cynnydd, ac yn benodol, cynnig her addas i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 3.

Dylai awdurdodau lleol:

  • wella’r cymorth a’r cyngor ar gyfer ymarferwyr addysg gorfforol a hyrwyddo arfer orau;
  • defnyddio menter 5x60 i hyrwyddo cysylltiadau mwy effeithiol gyda chlybiau a sefydliadau lleol i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a chyfranogiad gydol oes mewn chwaraeon a hamdden gorfforol; a
  • sicrhau cywirdeb a chysondeb gwell wrth farnu lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 3.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried y ffordd orau o gynnal arfer ac effaith dda AGChY a mentrau 5x60.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Arfer orau

Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad yn cynnwys arfer orau o Radyr Comprehensive School, Darland High School, Cwmcarn High School, Maesteg Comprehensive School, Cwrt Sart Comprehensive School, a Porthcawl Comprehensive School.

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.