Arfarniad o effaith y Fframwaith Sgiliau anstatudol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru yng nghyfnod allweddol 3 - Mai 2012

Crynodeb

Mae’r adroddiad hwn yn arfarnu pa mor dda y mae ysgolion uwchradd yng Nghymru
yn defnyddio’r Fframwaith Medrau yng nghyfnod allweddol 3 i gynllunio a chyflwyno
gwelliannau yn natblygiad medrau generig disgyblion.

Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • sicrhau ymdriniaeth briodol a graddol yng nghyfnod allweddol 3 i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a rhifedd disgyblion;
  • gweithio gyda¡¦r ysgolion cynradd sy¡¦n eu bwydo i sicrhau parhad a dilyniant addas wrth ddatblygu medrau generig;
  • cydlynu¡¦r dull ar gyfer addysgu medrau cyfathrebu, meddwl, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a rhifedd yng nghyfnod allweddol 3; a
  • datblygu systemau effeithiol ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion mewn datblygu medrau generig i lywio cynllunio yn y dyfodol.

Dylai awdurdodau lleol:

  • gefnogi ysgolion i:

           • gynllunio cwricwlwm sy¡¦n datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn raddol ar draws pob pwnc yng nghyfnod allweddol 3; ac

           • asesu ac olrhain datblygiad medrau generig disgyblion rhwng cyfnod allweddol 2 a   chyfnod allweddol 3, a thrwy gydol cyfnod allweddol 3.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu¡¦r Fframwaith Medrau fel ei fod:

            • yn darparu dilyniant clir mewn datblygu medrau generig disgyblion trwy gydol cyfnod allweddol 3;
            • yn darparu strwythur symlach y gall ysgolion ei ddefnyddio¡¦n hawdd i
gynllunio, asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn datblygu medrau
generig; ac
           • yn rhoi enghreifftiau o safonau disgyblion mewn medrau generig ar draws y cwricwlwm i ysgolion; ac

  • yn adolygu gwerth y Fframwaith Medrau i ysgolion ac ystyried cynnwys datblygu medrau generig disgyblion yng Ngorchmynion Pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol eu hunain.

Astudiaethau achos arfer orau

Gallwch ddarllen yr enghreifftiau canlynol o arfer orau yn Atodiad 2 yr adroddiad llawn:

  • Eirias High School - Cynllunio ar gyfer datblygu medrau
  • Monmouth Comprehensive School - Olrhain cynnydd mewn medrau
  • Pen-Y-Dre High School - Cynnwys disgyblion yn eu cynnydd eu hunain mewn medrau
  • Mary Immaculate R.C. High School - Monitro’r ddarpariaeth ar gyfer medrau
  • Cynffig Comprehensive School - Defnyddio cyfleoedd achredu i gynllunio cynnydd mewn medrau

 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.