Mae Ysgol Gyfun Treorci yn rhoi cynnydd dysgwyr ar lwybr carlam mewn pynciau fel Ffrangeg, Mathemateg a’r ddarpariaeth Cymraeg ail iaith. Mae cwricwlwm hyblyg a chytbwys yr ysgol yn sicrhau ei bod yn bodloni anghenion pob dysgwr, gan gynnwys nodi disgyblion mwy galluog a dawnus pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.
Mae’r cyfleoedd carlam wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddeilliannau rhagorol yn yr ysgol ac mae wedi annog disgyblion i astudio’r pynciau hyn i lefel A.

