Crynodeb
Diben yr adroddiad arolwg hwn yw:
- arfarnu ansawdd ac effeithiolrwydd y strategaethau a ddefnyddir gan ysgolion uwchradd ac awdurdodau lleol i gefnogi a herio disgyblion mwy abl a dawnus;
- amlygu enghreifftiau o arfer dda a’i heffaith ar ddisgyblion;
- nodi gwendidau a bylchau yn y ddarpariaeth; ac
- arfarnu pa mor llwyddiannus fu arweiniad a hyfforddiant Llywodraeth Cymru wrth wella darpariaeth a safonau ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus.
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- adeiladu ar y trefniadau pontio presennol rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd i ddarparu parhad a dilyniant gwell yn addysg disgyblion mwy abl a dawnus;
- gwella’r defnydd o ddata ac asesu i nodi, olrhain a monitro cynnydd disgyblion mwy abl a dawnus a rhannu’r wybodaeth hon gyda’r holl staff a’r rhieni perthnasol;
- darparu cyfleoedd cyfoethog a darpariaeth sy’n cynnig her briodol ar draws y cwricwlwm i ddisgyblion mwy abl a dawnus gyflawni’r safonau uchaf;
- sicrhau bod disgyblion mwy abl a dawnus o gefndiroedd difreintiedig yn cael cymorth penodol i oresgyn rhwystrau rhag dysgu;
- darparu mentora ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus i’w helpu i wneud y dewisiadau gorau o ran gweithgareddau allgyrsiol, opsiynau a gyrfa;
- hyfforddi arweinwyr ysgol, athrawon a staff cymorth ar sut i fynd i’r afael ag anghenion disgyblion mwy abl a dawnus a defnyddio rhwydweithiau o arfer broffesiynol i rannu arfer orau; a
- gwella dealltwriaeth rhieni o’r modd y gallant gefnogi addysg eu plentyn mwy abl neu ddawnus yn well.
Dylai awdurdodau lleol:
- hyfforddi swyddogion gwella ysgolion ar sut i nodi, cefnogi, olrhain, monitro ac arfarnu cynnydd disgyblion mwy abl a dawnus; a
- defnyddio data yn fwy effeithiol i arfarnu tueddiadau dros gyfnod yng nghyflawniad disgyblion mwy abl a dawnus.
Astudiaethau achos arfer orau
Gallwch ddarllen yr enghreifftiau canlynol o arfer orau yn Atodiad 1 yr adroddiad llawn:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Cymorth awdurdod lleol i ddatblygu’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus mewn ysgolion uwchradd
- Ysgol Gyfun Y Pant - Nodi, asesu, olrhain a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer grŵp o ddisgyblion mwy abl a dawnus ym Mlwyddyn 7 rhwng 2006 a 2011
- Treorchy Comprehensive School - Darpariaeth garlam mewn Cymraeg ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus
- Ysgol Gyfun Bro Morgannwg - Trefniadau pontio a nodi disgyblion mwy abl a dawnus
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni - Cwricwlwm carlam ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus mewn mathemateg a gwyddoniaeth yng nghyfnod allweddol 3
- Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin - Ymestyn a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus ym Mlwyddyn 11 a Blwyddyn 12
- Newbridge School - Gweithgaredd 1 datblygiad cwricwlwm targedig ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus mewn gwyddoniaeth a gweithgaredd 2 cyflwyno amrywiaeth o fentrau ‘cyllid sbarduno’ ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus
- St Joseph's R.C. High School - Ymestyn medrau llythrennedd disgyblion sy’n fwy abl a dawnus
- Castell Alun High School - Cyflwyno seryddiaeth TGAU yng nghwricwlwm yr ysgol

