Darpariaeth Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd - Gorffennaf 2012

Crynodeb

Mae’r adroddiad yn arfarnu ansawdd darpariaeth Bagloriaeth Cymru ar lefel 3 mewn ysgolion uwchradd, mae’n nodi astudiaethau achos o arfer dda ac mae’n rhoi argymhellion ar gyfer gwella.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • ystyried adolygu strwythur Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, i adeiladu ar ei gryfderau a dileu ei wendidau;
  • gweithio gydag ysgolion a CBAC i gynllunio sut i gyflwyno graddio i asesu Cymhwyster Bagloriaeth Cymru; ac
  • adolygu’r trefniadau ar gyfer asesu cymwysterau medrau hanfodol.

Dylai cyrff dyfarnu:

  • ddarparu arweiniad a deunyddiau enghreifftiol pellach i gefnogi ysgolion wrth gyflwyno ac asesu medrau hanfodol; a
  • datblygu gwefan Bagloriaeth Cymru i gynnwys ystod ehangach o adnoddau cymeradwy, gan gynnwys adnoddau cyfrwng Cymraeg.

Dylai ysgolion uwchradd:

  • monitro’n agosach y trefniadau ar gyfer cyflwyno ac asesu medrau hanfodol fel nad ydynt yn or-fiwrocrataidd;
  • monitro ansawdd dysgu ac addysgu ym Magloriaeth Cymru fel rhan o’u gweithdrefnau hunanarfarnu arferol, gyda ffocws penodol ar gynnydd a safonau myfyrwyr; a
  • chasglu a defnyddio arfarniadau myfyrwyr o’u profiadau o Fagloriaeth Cymru i wella’r ddarpariaeth.

Astudiaethau achos arfer orau

Gallwch ddarllen yr enghreifftiau canlynol o arfer orau yn Atodiad 1 yr adroddiad llawn:

  • Ysgol Gyfun Ddwyieithog Y Preseli – Gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau myfyrwyr
  • Ysgol Morgan Llwyd – Cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm (y modiwl iaith)
  • Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd – Datblygiad a hyfforddiant staff
  • Hawarden High School – Rhaglen fentora

 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.