Mae tagio yn ffordd ddefnyddiol o grwpio cynnwys gan ddefnyddio geiriau allweddol ac ymadroddion syml, waeth ble mae’r cynnwys ar y wefan.
Rydym wedi tagio dros ddau gant o astudiaethau achos arfer orau ac adroddiadau thematig i wneud y grwpio a’r chwilio yn haws. O faes pwnc i sector neu enw darparwr, gallwch ddod o hyd i bob cyhoeddiad sydd â thag penodol yn gyflym.
Mae enghreifftiau o dagiau a ddefnyddir gan Estyn yn cynnwys presenoldeb, ymddygiad, lles, y cyfnod sylfaen, llythrennedd, rhifedd a llawer mwy.
Mae dwy ffordd o chwilio gan ddefnyddio tagiau trwy:
1) Deipio gair allweddol yn Chwiliad Manwl, gan wirio’r blwch yn erbyn ‘chwilio yn ôl tag’.

2) Clicio ar dag o astudiaeth achos arfer orau neu adroddiad thematig unigol.

Bydd y ddau ddull yn dangos rhestr o’r holl gyhoeddiadau sydd wedi’u tagio â gair allweddol penodol.
Er enghraifft, dangosir y rhestr ganlynol o gyhoeddiadau o ddefnyddio chwiliad tag ar gyfer “Gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc”. Bydd clicio ar unrhyw eitem yn y rhestr yn agor y ddogfen iawn.


