Hygyrchedd

Ein nod yw darparu gwefan sy’n hygyrch i bob un o’i hymwelwyr, waeth pa borwr yr ydych yn ei ddefnyddio, a ph’un a oes gennych unrhyw anableddau ai peidio. Mae’r cynllun yn ystyried defnyddwyr sydd â nam ar y golwg neu sy’n cael anawsterau’n defnyddio llygoden. Fe’i datblygwyd i gyfateb â meddalwedd darllen sgrin poblogaidd, a gellir ei lywio’n hawdd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn dymuno rhoi adborth i ni er mwyn i ni allu parhau i wella hygyrchedd y wefan hon.

Cydymffurfio

Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio ag amodau Lefel A Ddwbl o leiaf, fel y nodir gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe W3C, 1.0. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhoi nifer o fannau gwirio dethol Priority 3 ar waith.
Yn gyffredinol, mae’r safle yn cydymffurfio â chyfraddiad Lefel A Ddwbl WAI lle defnyddir HTML. Pan drefnir bod cynnwys ar gael mewn fformatau eraill fel Adobe Acrobat a Flash, nid oes cydymffurfiaeth.

Nodweddion hygyrchedd

  • Mae cysylltiadau wedi’u hysgrifennu i wneud synnwyr pan gânt eu darllen y tu allan i’w cyd-destun.
  • Mae gan bob delwedd a ddefnyddir ar y safle hwn fersiynau testun cyfatebol priodol.
  • Defnyddiwyd taflenni arddull rhaeadru ar gyfer cynllun a chyflwyniad.
  • Mae pob tudalen wedi’i llunio fel y gellir ei darllen heb ddalenni arddull.
  • Mae’r safle hwn yn defnyddio meintiau ffont i alluogi’r defnyddiwr i nodi "maint y testun" mewn porwyr gweledol.
  • Mae pob ffurf yn dilyn dilyniant Tab rhesymegol.
  • Mae labeli yn gysylltiedig â meysydd ar ffurfiau HTML.

Map Safle

Rydym wedi darparu map safle o’r prif benawdau ar y wefan. Dyma’r lle gorau i gael trosolwg o’r hyn sydd ar gael ar y wefan. Mae’r dolenni cyswllt yn y map safle yn mynd â chi i brif adrannau’r safle.

Cyfeiriadau hygyrchedd

Gweld ein cyhoeddiadau

Nid yw Estyn yn cynhyrchu copïau called o adroddiadau arolygu, ond bydd copïau electronig o’r holl adroddiadau arolygu o’r 6 blynedd diwethaf ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan.

Os na fydd copi electronig o’r adroddiad yr ydych yn gofyn amdano ar y safle hwn ar gael, gan ei fod yn hŷn na 6 oed, mae angen i chi gysylltu â’r darparwr addysg a hyfforddiant i gael copi papur. Ni allant wrthod eich cais, ond mae ganddynt hawl i godi tâl bach am lungopïo.

Mae angen Adobe Acrobat arnoch i weld ein cyhoeddiadau. Os nad oes gennych y feddalwedd hon sydd am ddim, cliciwch ar yr eicon isod i’w lawrlwytho oddi ar wefan Adobe.

Acrobat Reader

Ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg, gellir lawrlwytho meddalwedd Adobe am ddim oddi ar wefan Adobe i droi ffeiliau PDF yn destun HTML neu ASCII y gellir ei ddefnyddio gan raglenni darllen sgrin.

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.