Adroddiadau Arolygu
Diben arolygu yw nodi nodweddion da a diffygion er mwyn i ddarparwyr addysg a hyfforddiant allu gwella ansawdd yr addysg y maent yn ei chynnig a chodi’r safonau a gyflawnir gan eu dysgwyr.
Mae adroddiadau arolygu Estyn wedi’u cynllunio i roi gwybodaeth i rieni a dysgwyr am berfformiad eu hysgol, eu coleg, neu’u darparwr hyfforddiant.
I gael gwybod mwy ynglŷn â’r hyn y mae ein harolygwyr yn adrodd arno, edrychwch ar ein gwybodaeth am Arweiniad Arolygu.
Chwilio am Adroddiad Arolygu
Gallwch chwilio am adroddiadau Arolygu trwy glicio ar ein map rhyngweithiol o Gymru neu chwilio yn ôl geiriau allweddol.
Cyhoeddir pob un o’n hadroddiadau yn unol â Chynllun Iaith Gymraeg Estyn.
Mae ein polisi yn golygu bod:
- Adroddiadau thematig (dolen gyswllt) a dogfennau polisi a gweithdrefnau Estyn yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog.
- Pob darparwr addysg a hyfforddiant unigol, neu’u hawdurdod lleol yn dweud wrthym os ydynt am i’r adroddiad gael ei gyhoeddi’n ddwyieithog. Pan na ofynnir am adroddiad dwyieithog, bydd adroddiadau ar ddarparwyr addysg a hyfforddiant unigol yn ymddangos yn Saesneg yn unig.
Gweld ein cyhoeddiadau
Nid yw Estyn yn cynhyrchu copïau called o adroddiadau arolygu, ond bydd copïau electronig o’r holl adroddiadau arolygu o’r 6 blynedd diwethaf ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan.
Os na fydd copi electronig o’r adroddiad yr ydych yn gofyn amdano ar y safle hwn ar gael, gan ei fod yn hŷn na 6 oed, mae angen i chi gysylltu â’r darparwr addysg a hyfforddiant i gael copi papur. Ni allant wrthod eich cais, ond mae ganddynt hawl i godi tâl bach am lungopïo.
Mae angen Adobe Acrobat arnoch i weld ein cyhoeddiadau. Os nad oes gennych y feddalwedd hon sydd am ddim, cliciwch ar yr eicon isod i’w lawrlwytho oddi ar wefan Adobe.
![]()
Ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg, gellir lawrlwytho meddalwedd Adobe am ddim oddi ar wefan Adobe i droi ffeiliau PDF yn destun HTML neu ASCII y gellir ei ddefnyddio gan raglenni darllen sgrin.
Pa wybodaeth yr hoffech ei weld ar y dudalen hon? Afonwch eich sylwadau a’ch syniadau i gwefan@estyn.gov.uk.
