Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2010-2011

31 Ionawr 2012

Heddiw, bydd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg Ei Mawrhydi 2010/11, sef asesiad cyffredinol o safonau a pherfformiad ysgolion, addysg a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru.

Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd, “Dyma fy adroddiad blynyddol cyntaf ers i ni gyflwyno ffordd newydd o arolygu darparwyr addysg a hyfforddiant. Yn ystod y flwyddyn hon, bu mwy o bwyslais ar ba mor dda y mae ysgolion a darparwyr yn cyflwyno dysgu sydd wedi’i seilio ar fedrau ac ar hunanarfarnu.

Mae fy adroddiad yn cadarnhau bod llawer o ysgolion a darparwyr yn perfformio’n dda. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn gryfder yn y mwyafrif o ysgolion, gyda bechgyn a merched yn ymateb yn gadarnhaol i’r gweithgareddau ysgogol. Maent yn fwy annibynnol, hyderus a chreadigol.

Mae perfformiad mewn pedair o bob pump ysgol gynradd a dwy o bob tair ysgol uwchradd a arolygwyd yn dda yn bennaf.

Hefyd, rydym wedi gweld datblygiadau calonogol o ran lles. Dywed bron yr holl ddisgyblion eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol a’u bod yn cael llawer o gyfleoedd i ddysgu sut i fod yn iach ac i gymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd, ond, mae cyfraddau presenoldeb yn araf yn gwella.

Ond er gwaethaf y cynnydd hwn, mae nifer o feysydd sy’n parhau’n bryder o hyd: medrau darllen ac ysgrifennu plant a phobl ifanc ac ansawdd anghyson addysgu ac arweinyddiaeth.”

Mae’r adroddiad yn amlygu bod angen ymweliadau dilynol gan Estyn ar 25% o ysgolion, gan gynnwys 5% sy’n achosi pryder difrifol. Mae angen ymweliadau dilynol gan yr awdurdod lleol ar 20% arall o ysgolion. Mae’r ysgolion hyn wedi cael barnau ‘da’ i raddau helaeth mewn arolygiadau, ond mae ganddynt un neu fwy o feysydd pwysig i’w gwella. Mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol adrodd am eu cynnydd.

Un prif faes sy’n wendid yn y mwyafrif o ysgolion yw’r amrywiaeth yn ansawdd addysgu a dysgu. Hyd yn oed pan fernir bod ysgol yn ‘dda’ at ei gilydd, yn aml, bydd gwersi unigol neu adrannau lle mae ansawdd yr addysgu yn wael.

Mae Ann Keane yn parhau, “Rydym wedi gweld cwymp yng nghyfran yr addysgu ‘rhagorol’ neu ‘eithriadol’ o gymharu â’r cylch arolygu diwethaf. Mae angen i ysgolion wneud mwy i addasu eu deunyddiau a’u harddulliau addysgu i fodloni anghenion dysgwyr o bob gallu. Mae’r rhan fwyaf o ddosbarthiadau yn rhai ‘gallu cymysg’ felly mae’n bwysig iawn cynllunio ar gyfer dulliau gwahanol gyda gwahanol grwpiau o ddisgyblion yn y dosbarthiadau hyn ac olrhain cynnydd disgyblion unigol yn ofalus.”

Mae medrau llythrennedd a rhifedd yn parhau’n bryder wrth i arolygwyr ddarganfod tanberfformio ym mhob cyfnod allweddol, ymhlith lleiafrif sylweddol o ddisgyblion.

Mae Ms Keane yn parhau, “Mae gennym bryderon am safonau darllen ac ysgrifennu mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion cynradd. Mae 40% o ddisgyblion yn dechrau ysgolion uwchradd gydag oedran darllen sy’n fwy na chwe mis islaw eu hoedran gwirioneddol. Mae hyn yn annerbyniol. Mae angen i athrawon a rheolwyr gynllunio gwersi’n fwy effeithiol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion ym mhob pwnc.”

Hefyd, mae angen i arweinwyr, gan gynnwys llywodraethwyr, mewn ysgolion ac mewn awdurdodau lleol, chwarae rôl fwy gweithgar yn mynd i’r afael â thanberfformio yn fwy systematig. Canfuom nad yw penaethiaid a llywodraethwyr mewn tua chwarter o ysgolion yn monitro perfformiad yn ddigon gofalus nac yn herio pa mor dda y mae athrawon a disgyblion yn perfformio.”

Yn ystod 2010/11, arolygodd Estyn saith awdurdod lleol a darganfod bod perfformiad yn dda at ei gilydd mewn dau awdurdod lleol yn unig. Mae angen ymweliadau dilynol ar bump o’r saith awdurdod a arolygwyd. Mae tri awdurdod lleol yn ddigonol yn unig, mae angen gwelliant sylweddol ar un a rhoddwyd un yn y categori mesurau arbennig.

Mae safonau yn gymysg yn y sector ôl-16. Mae safonau yn dda mewn chwech o’r wyth lleoliad dysgu yn y gwaith a arolygwyd. Fodd bynnag, mae safonau’n amrywio o ragorol i anfoddhaol yn y pedwar sefydliad sy’n cynnig addysg bellach ac yn amrywio o ragorol i ddigonol yn y tri darparwr dysgu oedolion yn y gymuned.

-DIWEDD-

Mae cyfweliadau ar gael gydag Ann Keane, PAEM a Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol, drwy wneud cais.

Manylion cyswllt:
 

Charlotte Bram / Gina Carrington
Swyddfa’r Wasg
Ffôn: 02920 446526
E-bost cyfathrebu@estyn.gov.uk

Nodiadau i Olygyddion:

Caiff copi llawn o Adroddiad Blynyddol 2010-2011 a gweddarllediad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi eu cyhoeddi ar wefan Estyn yn www.estyn.gov.uk

Estyn yw’r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan, Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

 

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.