14 Mehefin 2011
Angen cymorth mwy cyson ar gyfer disgyblion Sipsiwn-Teithwyr
Mae cyfraddau presenoldeb disgyblion Sipsiwn-Teithwyr a’u lefelau cyrhaeddiad yn parhau yn rhy isel, meddai Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ei adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Mae hyn er gwaethaf ymdrechion gorau llawer o staff y Gwasanaeth Addysg Teithwyr dros gyfnod hir.
Addysg disgyblion Sipsiwn-Teithwyr, Mai 2011 yw’r ail adroddiad a gyhoeddwyd gan yr arolygiaeth yn y chwe blynedd diwethaf ar y mater hwn. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ysgolion uwchradd ac yn ymchwilio i ba gynnydd sydd wedi’i wneud ers 2005 pan gyhoeddodd Estyn Addysg Dysgwyr Sipsiwn-Teithwyr.
Er gwaethaf rhywfaint o welliant sy’n cael ei wneud gan ychydig o awdurdodau lleol ledled Cymru, canfu’r arolygiaeth mai araf fu’r cynnydd o ran gwella lefelau presenoldeb a chyrhaeddiad disgyblion Sipsiwn-Teithwyr. Hefyd, mae anghysonderau nodedig ar draws awdurdodau lleol yn ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer disgyblion Sipsiwn-Teithwyr.
Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, “Yr her i ysgolion ac awdurdodau lleol yw parhau i adeiladu eu perthynas gyda’r gymuned deithio er mwyn creu agweddau mwy cadarnhaol ymhlith rhieni. Rydym yn gwybod bod cyfraddau presenoldeb a chyrhaeddiad yn dibynnu’n helaeth ar y gwerth y mae teuluoedd yn ei roi ar addysg ffurfiol.”
“Yn ail, mae angen i fwy o ysgolion ddatblygu cwricwlwm sy’n mynd ati’n weithredol i hyrwyddo diwylliant Sipsiwn-Teithwyr, a mabwysiadu polisïau ac arferion sy’n diwallu anghenion disgyblion Sipsiwn-Teithwyr a’u rhieni.”
Canfu’r adroddiad hefyd, mai dim ond un o’r pump o argymhellion a amlinellwyd yn adroddiad blaenorol Estyn sydd wedi cael sylw ers 2005.
Fodd bynnag, canfu’r arolygiaeth ei bod yn anodd mesur ‘gwir’ raddau’r broblem, gan mai ychydig o awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n defnyddio data ar bresenoldeb, gwaharddiadau neu gyrhaeddiad i fesur effaith eu cymorth.
Yn ei hadroddiad, mae’r arolygiaeth yn amlinellu cyfres o argymhellion, rhai ohonynt yr un fath â’r rheiny y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad 2005, ar gyfer awdurdodau lleol ac ysgolion a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
– DIWEDD –
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Charlotte Bram, Gina Carrington
Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446454
Nodiadau i olygyddion
- Gellir gweld y copi o’r adroddiad llawn ar-lein yma
- Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ariannu Estyn (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998), ond rydym yn annibynnol ar y Cynulliad. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer dda ar addysg a hyfforddiant.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk
