15 Mai 2012
Ychydig iawn o ysgolion sy’n cynllunio’n ddigon effeithiol o ran sut i ddatblygu medrau cyfathrebu, rhifedd a meddwl dysgwyr 11-14 oed ar draws y cwricwlwm, yn ôl Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, Arfarniad o effaith y Fframwaith Sgiliau anstatudol i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru yng nghyfnod allweddol 3, dywed arolygwyr fod ysgolion yn ymwybodol bod angen i ddisgyblion ddatblygu medrau generig ond ychydig iawn ohonynt sy’n defnyddio’r Fframwaith Sgiliau wrth gynllunio datblygiad medrau. Y rheswm am hyn yw eu bod yn rhoi mwy o flaenoriaeth ar wneud yn siwr bod addysgu yn dilyn Gorchmynion Pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol. Dywed arolygwyr hefyd fod disgrifiadau yn y Fframwaith Sgiliau yn rhy fras i fod o ddefnydd i athrawon ac mae’r fframwaith ei hun yn anstatudol.
Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,
“Cyflwynwyd y Fframwaith Sgiliau yn 2008 ac mae wedi codi ymwybyddiaeth o’r angen am ddatblygu medrau trosglwyddadwy disgyblion ym meysydd cyfathrebu, rhifedd, meddwl a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ond nid yw’r fframwaith wedi bod yn ddigon dylanwadol. Mae’r medrau hyn yn hanfodol ar gyfer addysg a gyrfaoedd pobl ifanc yn y dyfodol.
“Fodd bynnag, darganfuom mai dim ond ychydig ysgolion sy’n cynllunio’n llwyddiannus ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm, er bod gan bron pob ysgol rywun sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu a gweithredu medrau.
“Lle bo ysgolion yn gwneud y cynnydd mwyaf wrth ddatblygu medrau generig disgyblion, rydym wedi gweld bod uwch reolwyr yn cefnogi ac yn darparu adnoddau a hyfforddiant priodol i staff i ddatblygu medrau ar draws y cwricwlwm.
“Byddwn yn annog uwch reolwyr, athrawon mewn ysgolion uwchradd a swyddogion ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol i ddarllen yr adroddiad llawn a rhoi ei argymhellion ar waith.”
Hefyd, darganfu arolygwyr fod asesu ac olrhain cynnydd disgyblion mewn medrau generig yn effeithiol mewn nifer fach o ysgolion yn unig. Lle bo hyn yn fwyaf llwyddiannus, mae ysgolion yn defnyddio systemau syml, nad ydynt yn fiwrocrataidd, sy’n llywio gwaith cynllunio gan athrawon yn uniongyrchol.
Yn Ysgol Gyfun Mynwy, er enghraifft, tiwtoriaid dosbarth, ‘rheolwyr cynnydd’ a disgyblion sy’n gyfrifol am ddatblygu medrau disgyblion. Mae tiwtoriaid yn asesu gwaith disgyblion, yn enwedig eu medrau llythrennedd, ac mae rheolwyr cynnydd yn goruchwylio’r asesiadau hyn ac yn gweithio gyda thiwtoriaid dosbarth i osod targedau. Bydd disgyblion a thiwtoriaid yna’n cytuno ar beth y mae angen ei wneud i wella. Mae’r rheolwr cynnydd yn cadw trywydd o dargedau, gan eu rhannu gydag athrawon pwnc a gwirio cynnydd disgyblion. Mae astudiaethau achos pellach o ysgolion uwchradd o bob cwr o Gymru i’w gweld yn yr adroddiad llawn.
Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion uwchradd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sicrhau bod datblygiad medrau’n cael ei gynllunio’n gynyddol drwy gydol cyfnod allweddol 3, yn ogystal â chael ei asesu a’i olrhain yn effeithiol.
-DIWEDD-
I wneud cais am gyfweliad gydag awdur yr adroddiad, Ceri Jones, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
Nodiadau i Olygyddion:
- Adroddodd ‘Arolwg Sgiliau Generig Sgiliau Dyfodol Cymru 2003’ fod cyflogwyr yng Nghymru yn pryderu am fylchau ym medrau gweithwyr. Yna, yn 2004, fe wnaeth ACCAC, Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, gynghori y dylid cael cwricwlwm wedi’i ddiwygio’n helaeth a oedd yn canolbwyntio ar fedrau.
- Yn 2008, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Orchmynion Pwnc diwygiedig y Cwricwlwm Cenedlaethol a nifer o fframweithiau anstatudol, gan gynnwys y Fframwaith Sgiliau, na fwriedir iddo fod yn rhaglen astudio ond yn gynsail i gynllunio ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, holl Orchmynion Pwnc 2008 y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r fframweithiau ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol, gyrfaoedd a byd gwaith ac addysg grefyddol.
- Mae sail dystiolaeth yr adroddiad hwn yn cynnwys:
- ymweliadau â sampl gynrychioliadol o 17 ysgol uwchradd, cyfweliadau ag arweinwyr uwch ac arweinwyr canol, craffu ar waith disgyblion a siarad â dysgwyr.
- cyfweliadau dros y ffôn â swyddogion gwella ysgol o saith awdurdod lleol; ac
- holiaduron wedi’u llenwi gan 46 o arweinwyr pwnc.
- Astudiaethau achos o arfer dda yn yr adroddiad:
- Ysgol Uwchradd y Fair Ddihalog, Caerdydd
- Ysgol Gyfun Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Uwchradd Eirias, Conwy
- Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful
- Ysgol Gyfun Mynwy, Sir Fynwy.
- Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw sicrhau rhagoriaeth i bawb ym maes dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn drwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chynghori annibynnol o ansawdd uchel.
- Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod drwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.
- Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru ond cawn ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

