23 Ionawr 2012
Angen mwy o gyfleoedd dysgu ar ddysgwyr dros 65 oed
Mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw, Effaith dysgu oedolion yn y gymuned ar les dysgwyr hŷn, daw Estyn i’r casgliad nad yw dysgwyr dros 65 oed yn gallu manteisio’n ddigonol ar gyfleoedd addysg neu gyfleoedd i ddatblygu medrau a fyddai’n eu helpu i wella ansawdd eu bywyd.
Mae’r 15 partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Cymru yn cynnig dysgu gydol oes i ddysgwyr hŷn yn y gymuned. Ond, oherwydd bod y pwyslais ar ddatblygu medrau ar gyfer gwaith, nid yw hyn yn addas i ddysgwyr dipyn hŷn, sydd â mwy o ddiddordeb mewn gweithgareddau cyfoethogi ar yr adeg honno o’u bywyd. Gallai’r gweithgareddau hyn fod yn gyrsiau ar ddiddordebau neu sgiliau crefftau neu’n gyrsiau sy’n eu helpu i fyw bywyd iach a chynnal eu lles.
Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd, “Mae partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned wedi chwarae rôl bwysig yn cynorthwyo dysgwyr hŷn di-waith rhwng 50 a 65 oed i ddod o hyd i waith drwy eu helpu nhw i fagu eu hyder, gwella’u medrau a dod o hyd i waith.
Fodd bynnag, nid oes digon o gyfleoedd dysgu i ddysgwyr sydd y tu hwnt i oedran cyflogaeth. Mae’r dysgwyr hyn sydd dipyn yn hŷn yn awyddus i barhau i ddysgu gan ei fod yn eu helpu i gadw’n weithgar ac yn annibynnol ac mae’n eu galluogi nhw i gwrdd yn rheolaidd ag aelodau eraill o’r gymuned leol.
Mae’n hanfodol bod y partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned yn adolygu ac ehangu’r amrywiaeth o gyrsiau sy’n cael eu cynnig, yn enwedig i bobl dros 70 oed, er mwyn annog y dysgwyr tipyn hŷn hyn i barhau i ddysgu yn y gymuned.”
Hefyd, darganfu Estyn fethiannau o ran cydweithio rhwng gwasanaethau addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi lles adeg henaint ac absenoldeb strategaeth glir ymhlith adrannau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fodloni anghenion poblogaeth hŷn sy’n cynyddu.
Yn ei hadroddiad, mae’r arolygiaeth yn amlinellu cyfres o argymhellion fel galwadau ar bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned i adolygu’r math o gyrsiau sy’n cael eu cynnig a sut maent yn asesu cyflawniadau dysgwyr hŷn. Caiff awdurdodau lleol eu hannog i sicrhau bod byrddau gwasanaeth lleol yn gwella’u defnydd ar y bartneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned i gyflwyno dysgu gydol oes a gwasanaethau cydgysylltiedig i bobl hŷn.
Caiff Llywodraeth Cymru ei hannog i wella gweithio ar y cyd ar draws adrannau ac i gasglu ac asesu data’n fwy effeithiol.
Mae’r arolygiaeth wedi cynnwys nifer o astudiaethau achos yn atodiadau’r adroddiad sy’n arddangos nifer o brosiectau llwyddiannus sy’n cael eu cynnal gan bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Cymru.
-DIWEDD-
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
Nodiadau i olygyddion
- Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
- I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef www.estyn.gov.uk
