14 Chwefror 2012
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, yr arolygiad addysg a hyfforddiant yng Nghymru, mae gwelliant cyson wedi bod yng nghyrhaeddiad disgyblion ysgolion uwchradd mewn addysg gorfforol.
Mae’r adroddiad, sef Addysg gorfforol mewn ysgolion uwchradd, yn amlygu’r ffaith bod 73% o ddisgyblion a astudiodd addysg gorfforol TGAU yn 2011 wedi ennill graddau A*-C. Mae hyn yn welliant ar 2010 pan gafodd 70% o ddisgyblion yr un graddau. Yng ngweddill y DU, dim ond 71% o ddisgyblion a ddilynodd yr un cwrs a gafodd y canlyniadau hyn.
Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, “Mae’n galonogol gweld disgyblion yng Nghymru yn gweithio’n galed ac yn gwneud yn well nag erioed yn y pwnc hwn. Mae addysg gorfforol yn rhan annatod o fywyd ysgol ac yn cyfrannu at les cyffredinol disgyblion.
Dros y blynyddoedd, un o’r prif heriau fu gwella lefelau cyfranogiad merched. Mae mentrau fel rhaglen 5x60 y Chwaraeon Cymru wedi helpu cyflawni’r nod hwn trwy gyflwyno mwy o weithgareddau fel aerobeg, dawnsio stryd, pilates, swmba ac ymarfer corff trwy focsio.
Fodd bynnag, er gwaetha’r cynnydd hwn, mae bron i ddau o bob tri o’r rheiny sy’n astudio TGAU addysg gorfforol yn fechgyn. Mae angen i ysgolion ddatblygu ffyrdd newydd o ennyn diddordeb merched. Mae angen iddynt ganolbwyntio ar ddatblygu medrau ehangach disgyblion hefyd, fel cyfathrebu, rhifedd, meddwl ac arweinyddiaeth.”
Canfu arolygwyr fod yr addysgu yn dda neu’n well mewn tua thri chwarter o’r gwersi a arsylwyd ganddynt. Yn y gwersi gorau, mae athrawon yn cynllunio gwersi’n ystyriol i herio ac ennyn diddordeb pob disgybl.
Mae Ysgol Gyfun Porthcawl yn Ne Cymru yn arddel y dull hwn yn gryf. Fel rhan o’i rhaglen gweithgareddau anturus, mae’r ysgol yn cynnig cwrs achub bywydau syrffio i ddisgyblion Blwyddyn 7 (disgyblion 11 oed) gyda chymorth gan y clwb lleol. Mae disgyblion yn mwynhau dysgu am ddiogelwch ar y traeth, peryglon lleol a mordwyo sylfaenol, sy’n helpu hyrwyddo eu medrau datrys problemau a rhifedd.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r ffaith nad yw athrawon mewn lleiafrif o wersi yn cynllunio’n ddigon da i sicrhau bod disgyblion o bob gallu yn gwneud cynnydd ac ni chaiff rhai disgyblion eu cadw’n gorfforol egnïol. Nid ydynt ychwaith yn cael digon o gyfleoedd i ddysgu’n annibynnol neu i fod yn arweinwyr.
Fe wnaeth arolygwyr hefyd ystyried argaeledd ac addasrwydd cyfleusterau. Canfuwyd bod gan y mwyafrif o ysgolion ystafelloedd newid, caeau chwarae ac offer priodol. Serch hynny, mae’r cyfleusterau mewn lleiafrif sylweddol o ysgolion yn cynnwys diffygion pwysig fel lle cyfyngedig dan do, campfeydd ag offer gwael a chaeau chwarae â draeniau gwael.
Mae’r adroddiad yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer adrannau addysg gorfforol: sicrhau bod disgyblion yn aros yn egnïol gorfforol mewn gwersi, datblygu eu medrau cyfathrebu, rhifedd a meddwl, a chryfhau hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol. Mae angen i awdurdodau lleol wella’r cymorth a’r cyngor y maent yn eu cynnig i ymarferwyr addysg gorfforol hefyd.
Mae ystod o astudiaethau achos wedi’u cynnwys yn yr adroddiad o ysgolion uwchradd ledled Cymru.
- Y DIWEDD –
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Y Tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
Nodiadau i olygyddion
- Ymwelodd arolygwyr ag 19 o ysgolion uwchradd; mae’r sampl hon yn ystyried ystod o leoliadau daearyddol, cefndir economaidd gymdeithasol, maint yr ysgol a chyd-destunau ieithyddol
- Mae tystiolaeth ychwanegol yn cynnwys adroddiadau arolygu o ysgolion uwchradd o gylch arolygu 2004-2010, canlyniadau TGAU ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, ac asesiadau athrawon cyfnod allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol.
- Mae astudiaethau achos yn yr adroddiad o:
- Ysgol Uwchradd Cwm-carn, Caerffili
- Ysgol Gyfun Radur, Caerdydd
- Ysgol Gyfun Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gyfun Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gyfun Gymunedol Cwrt Sart, Castell-nedd Port Talbot
- Ysgol Uwchradd Darland, Wrecsam
- Estyn yw swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
- I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef: www.estyn.gov.uk

