Dim digon o her i ddisgyblion mwy galluog a dawnus mewn ysgolion cynradd

Rhannu |

14 Gorffennaf 2011

Dim digon o her i ddisgyblion mwy galluog a dawnus mewn ysgolion cynradd

Yn y mwyafrif o ysgolion cynradd, nid yw disgyblion sy’n fwy galluog a dawnus yn cael digon o her, yn ôl Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant. Nid yw’r ysgolion hyn yn gwneud digon i nodi, cefnogi nac olrhain cynnydd disgyblion mwy galluog a dawnus.

Cyfeirir at ddisgyblion y mae angen cyfleoedd estynedig, wedi’u cyfoethogi, arnynt i ddatblygu eu galluoedd a’u doniau, fel disgyblion ‘mwy galluog a dawnus’. Mae tuag 20% o ddisgyblion yn y categori hwn, ac mae’n bosibl eu bod yn meddu ar y gallu i gyflawni uwchlaw lefel ddisgwyliedig y cwricwlwm, neu efallai eu bod yn dangos dawn benodol mewn maes penodol, fel cerddoriaeth, drama, celf neu chwaraeon.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd, “O’i chymharu â’r gwledydd sy’n perfformio orau ledled y byd, ychydig iawn o ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel sydd gan Gymru. Mae herio dysgwyr mwy galluog a dawnus i berfformio’n well yn flaenoriaeth genedlaethol gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes digon o ddisgyblion cynradd yn cyflawni uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig mewn Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth mewn asesiadau athrawon. Mae codi safonau i’r disgyblion mwy galluog a dawnus yn aml yn faes gwan mewn ysgolion cynradd.

“Yn yr ysgolion prin lle mae’r disgyblion mwy dawnus yn ffynnu go iawn, mae’r holl ddisgyblion yn tueddu i gyflawni safonau uchel. Y rheswm am hyn yw bod y strategaethau addysgu a dysgu yn yr ysgolion hynny’n cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion o bob gallu.”

Darganfu arolygwyr fod disgyblion mwy galluog a dawnus yn fwy tebygol o gyflawni safonau uchel mewn ysgolion sy’n adnabod y disgyblion hyn yn gywir, sy’n gosod targedau trwyadl, ac sy’n olrhain ac yn monitro’u cynnydd.

Yn ogystal, mae cyfathrebu effeithiol â rhieni yn ffactor allweddol. Mae ysgolion sy’n sicrhau bod yr holl rieni’n deall y polisi ar gyfer adnabod disgyblion mwy galluog a dawnus fel arfer yn osgoi camddealltwriaeth a’r gwrthdaro posibl a all godi pan fydd darpariaeth wahanol i rai disgyblion. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif sylweddol o ysgolion yn gwneud hyn.

Mae’r pontio rhwng ysgol gynradd ac ysgol uwchradd hefyd yn ffactor arwyddocaol yn llwyddiant hirdymor pob disgybl. Fodd bynnag, yn aml, nid oes digon o barhad a dilyniant i ddisgyblion mwy galluog a dawnus yn benodol. Mewn ambell achos, pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, bydd y gwaith yn rhy hawdd ac nid yw disgwyliadau athrawon yn ddigon uchel.

Mae’r cymorth a’r her y mae awdurdodau lleol yn eu cynnig yn amrywio ar draws Cymru, fel y mae lefel y flaenoriaeth sy’n cael ei neilltuo i’r mater hwn. Yn aml, bydd llawer o gyfrifoldebau eraill gan gydlynwyr awdurdodau lleol a bydd cefnogi gwaith ysgolion gyda disgyblion mwy galluog a dawnus yn rhan fach o’u rôl. Heblaw am ambell eithriad, ychydig iawn o wybodaeth y mae’r cydlynwyr hyn yn meddu arni am y gwaith y mae ysgolion unigol yn ei wneud i wella’r ddarpariaeth a’r deilliannau i ddisgyblion mwy galluog a dawnus.

Mae un o’r astudiaethau achos yn adroddiad Estyn yn amlygu arfer dda yn Ysgol Fabanod Glan Gele, yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Conwy. Mae’r pennaeth yn cydlynu polisïau a strategaethau’r ysgol ar gyfer y disgyblion mwy galluog a dawnus a chaiff bron hanner y disgyblion eu cydnabod yn y categori hwn. Yn benodol, fe wnaeth grŵp llythrennedd i fechgyn yn unig, a sefydlwyd ar gyfer y bechgyn hynny â’r potensial i gyflawni uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig mewn Saesneg, helpu i wella llawysgrifen a sillafu’r bechgyn. Yn ogystal, cyflawnodd hanner y grŵp uwchlaw’r lefel ddisgwyliedig mewn profion diwedd cyfnod allweddol, ac fe wnaeth yr hanner arall yn dda iawn.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi enghreifftiau o sut mae gwledydd Ewropeaidd eraill yn cefnogi disgyblion mwy galluog a dawnus. Yn y Weriniaeth Tsiec, mae deddfwriaeth yn arwain y ddarpariaeth a disgwylir i bob ysgol ddatblygu ei rhaglen ei hun; yn yr Iseldiroedd, gall disgyblion rhwng 4 a 12 oed sydd ag IQ o 130 neu’n uwch fynd i ysgol ‘Leonardo’. Mae Saesneg yn cael ei addysgu i ddisgyblion o bedair oed ymlaen a Sbaeneg o wyth oed ymlaen, ynghyd ag athroniaeth, gwyddor gyfrifiadurol, mathemateg, busnes a menter. Rhoddir gliniadur â chyswllt diwifr â’r rhyngrwyd i bob dysgwr i’w ddefnyddio gartref ac yn yr ysgol.

Mae adroddiad Estyn yn cyflwyno cyfres o argymhellion i ysgolion ac awdurdodau lleol, gan gynnwys defnyddio data’n fwy effeithiol i olrhain cynnydd, cynnig profiadau dysgu mwy unigol er mwyn helpu’r disgyblion mwy galluog a dawnus i gyflawni’r safonau uchaf a chynnig hyfforddiant effeithiol i arweinwyr ysgol, athrawon a staff cymorth.
-DIWEDD-
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317

Nodiadau i olygyddion
• Mae sail dystiolaeth yr adroddiad hwn yn cynnwys:
o Adroddiadau arolygu ysgolion cynradd a data o ddiwedd cyfnod allweddol 1 a chyfnod allweddol 2 2008-2010;
o Ymweliadau â sampl gynrychioliadol o 16 o ysgolion cynradd, ysgolion babanod neu ysgolion iau ar draws Cymru, clwstwr cynradd/uwchradd a phedwar awdurdod lleol;
o Tystiolaeth ysgrifenedig oddi wrth 13 o awdurdodau lleol pellach;
o Holiaduron a chyfweliadau â dysgwyr; a
o Chyfweliadau gyda’r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Plant Galluog mewn Addysg (NACE).

• Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ariannu Estyn (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998), ond rydym yn annibynnol arno. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer dda ar addysg a hyfforddiant.