05 Gorffennaf 2011
Mae angen i golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith sicrhau bod dysgwyr o ardaloedd difreintiedig yn cyflawni eu potensial
Mae colegau addysg bellach a darparwyr dysgu yn y gwaith yn rhoi gofal, cymorth ac arweiniad da i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig, ond mae angen iddynt wneud yn siŵr bod y dysgwyr hyn yn cyflawni eu potensial, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Canfu arolygwyr mai nifer fach o golegau a darparwyr dysgu yn y gwaith yn unig sy’n cymharu cyflawniadau dysgwyr o ardaloedd difreintiedig, neu’r rhai sy’n cael cymorth ariannol, gyda pherfformiad dysgwyr eraill. Nid ydynt yn gwneud digon o ddefnydd o ddata adeg cofrestru i ddadansoddi p’un a ydynt yn cynnig y cyrsiau cywir i ddenu dysgwyr o ardaloedd difreintiedig.
Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd “Mae cyswllt cryf rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel. Mae disgyblion ysgol o deuluoedd tlotach yn fwy tebygol o gyflawni ar lefelau is na disgyblion eraill. Mae colegau a darparwyr dysgu yn y gwaith yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr o ardaloedd difreintiedig barhau â’u haddysg a’u hyfforddiant os ydynt yn gadael yr ysgol yn 16 oed.
“Mae’r canfyddiadau o’r adroddiad hwn yn awgrymu bod dysgwyr o ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o barhau â’u hastudiaethau ôl-16 pan fyddant yn cael cymorth ariannol a phersonol. Ond mae angen i golegau a darparwyr hefyd wneud yn siŵr eu bod yn denu digon o ddysgwyr o’r ardaloedd hyn trwy ddadansoddi patrymau cofrestru ac addasu’r dewisiadau cwricwlwm y maent yn eu cynnig.”
Mae’r cymorth ariannol a gaiff dysgwyr mewn ardaloedd difreintiedig yn ffactor pwysig wrth eu helpu i gwblhau eu hastudiaethau. Mae’n amlwg fod cyflwyno cymorth ariannol wedi galluogi mwy o ddysgwyr i barhau â’u haddysg a’u hyfforddiant. Mae amrywiaeth o grantiau a brofwyd trwy fodd ar gael i ddysgwyr ar raglenni addysg bellach a theimlai mwyafrif y rhai a gafodd eu cyfweld na fyddent yn gallu parhau i astudio heb y cymorth ariannol a gânt.
Mae’r adroddiad yn sôn am un dysgwr 16 mlwydd oed a oedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd mewn gofal. Roedd ei bresenoldeb yn yr ysgol yn wael, ac nid oedd yn gwneud yn dda o ganlyniad. Bu’r coleg yn gweithio gyda thîm Plant y Gofelir Amdanynt ac Ymadawyr Gofal y Cyngor i sicrhau bod y dysgwr yn cael pas bws, prydau am ddim a chymorth ariannol ar gyfer eitemau eraill yr oedd eu hangen ar gyfer y coleg. Roedd ganddo hawl i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a oedd yn gymhelliant ychwanegol i ddysgu. Am y tro cyntaf, roedd gan y dysgwr ifanc hwn ei gyfrif banc a’i arian ei hun. Er nad oedd wedi ymgysylltu yn ystod ei flynyddoedd ysgol, roedd presenoldeb y myfyriwr hwn yn y coleg yn rhagorol.
Mae Estyn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi dysgwyr o ardaloedd difreintiedig yn ariannol a bod darparwyr yn arfarnu effeithiolrwydd eu cymorth ar gyfer dysgwyr o ardaloedd difreintiedig i nodi ei effaith ar gyrhaeddiad.
-DIWEDD-
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Y Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
Nodiadau i olygyddion
- Mae sail dystiolaeth yr adroddiad hwn yn cynnwys:
o Adolygiad o adroddiadau thematig blaenorol Estyn, yn ogystal â llenyddiaeth gyfredol.
o Dadansoddiad o ddata gan Lywodraeth Cymru ac o adroddiadau diweddar Estyn;
o Ymweliadau a holiadur i saith coleg sy’n darparu rhaglenni AB a dysgu yn y gwaith, a oedd yn cynnwys
cyfweliadau â staff a dysgwyr.
- Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
- I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan www.estyn.gov.uk
