Mae angen i ysgolion ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau i helpu gwella medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion

Rhannu |

13 Gorffennaf 2011

Mae angen i ysgolion ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau i helpu gwella medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, Arfarniad o effaith y fframwaith Medrau anstatudol ar gyfer dysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru yng nghyfnod allweddol 2, canfu Estyn nad oes digon o ysgolion yn cynllunio cwricwlwm ‘yn seiliedig ar fedrau’ sy’n cynnwys gweithgareddau sy’n raddol yn fwy cymhleth, wedi’u cynllunio i ddatblygu medrau meddwl, cyfathrebu, TGCh a rhif disgyblion. Y rheswm am hyn yw’r ffaith nad oes dealltwriaeth glir yn gyffredinol o sut i ddefnyddio’r fframwaith Medrau anstatudol yn sylfaen ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm.

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd, “Mae angen i ysgolion gydnabod y dylai medrau fel llythrennedd a rhifedd ffurfio elfennau craidd unrhyw gwricwlwm ysgol. Dylai cynlluniau gwersi gynnig cyfleoedd heriol i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso eu medrau iaith a rhif.

Mae’r medrau hyn yn hanfodol ar gyfer gwella lefelau cyrhaeddiad disgyblion, ac mae’n hanfodol bod ysgolion yn adolygu eu cynllunio i sicrhau eu bod wedi gweddu’r cynllunio ym mhob maes pwnc i egwyddorion cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau.

Mae her PISA yn amlygu’r ffaith fod angen i bob ysgol adolygu ei chwricwlwm er mwyn ei seilio ar fedrau llythrennedd a rhifedd generig a throsglwyddadwy.”

Canfu’r arolygiaeth mai un o’r agweddau gwannaf yn yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw oedd diffyg ymwybyddiaeth yr athrawon o gyflawniadau blaenorol disgyblion mewn medrau a oedd yn golygu nad oeddent yn gallu cynllunio gweithgareddau a fyddai’n ymestyn eu dysgu. Roedd hyn yn rhannol oherwydd nad oedd systemau i asesu, olrhain a monitro datblygu disgyblion yn ddigon cadarn.

Mewn rhai ysgolion yr ymwelwyd â nhw, gwelodd yr arolygiaeth gwricwlwm effeithiol yn seiliedig ar fedrau. Yn yr ysgolion hyn, roedd gan uwch arweinwyr weledigaeth strategol glir a dealltwriaeth glir o sut i gymhwyso’r fframwaith Medrau yn effeithiol. Er enghraifft, roedd gan Ysgol Gynradd Glais, Abertawe, ddealltwriaeth ar y cyd o’r egwyddorion sy’n ategu’r fframwaith Medrau. Roeddent wedi datblygu dull ‘ysgol gyfan’ ar gyfer addysgu meddwl a medrau ac wedi mabwysiadu dull cyson ar draws yr ysgol ar gyfer cynllunio ac addysgu pynciau a medrau trosglwyddadwy. O ganlyniad, roedd disgyblion yn fwy hyderus, yn ymgysylltu’n fwy â’u dysgu, yn deall eu cryfderau a’u gwendidau ac yn dysgu’n dda oddi wrth ei gilydd.

Mae’r arolygiaeth wedi cynnwys nifer o astudiaethau achos yn atodiadau’r adroddiad.

Mae Estyn yn galw ar ysgolion i sicrhau mai datblygiad medrau disgyblion, yn enwedig llythrennedd a rhifedd, sydd wrth wraidd y cwricwlwm, gan ddarparu cyfleoedd mwy effeithiol i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’r medrau hyn ar draws pob pwnc a mabwysiadu dull ysgol gyfan i asesu ac olrhain cynnydd ym medrau disgyblion.

Caiff awdurdodau lleol eu hannog i wella’r cymorth y maent yn ei roi i ysgolion a Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r fframwaith Medrau i’w wneud yn gliriach ac yn fwy hygyrch i ysgolion.

-DIWEDD-

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Y Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317

Nodiadau i olygyddion

Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.