12 Gorffennaf 2011
Mae angen i ysgolion nodi a chynorthwyo dysgwyr dan anfantais
Yn ôl adroddiad gan Estyn, yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, mae angen i ysgolion wella o ran nodi a chynorthwyo dysgwyr o gefndiroedd dan anfantais.
Mae angen i ysgolion dargedu cymorth at ddysgwyr dan anfantais yn fwy penodol, nid dysgwyr â pherfformiad isel yn unig, gan gynnwys y disgyblion hynny sy’n cyflawni safonau cyfartalog neu safonau uwch na chyfartalog. Hefyd, mae angen i ysgolion ddefnyddio’u systemau asesu ac olrhain yn well i fonitro cynnydd dysgwyr dan anfantais.
Nodir anfantais mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio hawl i gael prydau ysgol am ddim fel dangosydd, ond mae llawer o ysgolion hefyd yn defnyddio ystod ehangach o feini prawf. Er enghraifft, dysgwyr mewn teuluoedd ar incwm isel, plant sy’n derbyn gofal, plant teithwyr a data ar ble mae dysgwyr yn byw (cod post neu ddata’n seiliedig ar ardal). Fodd bynnag, nid oes systemau digon da gan y rhan fwyaf o ysgolion i nodi anghenion unigol.
Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd, “Mae ymchwil yn dangos mai anfantais economaidd-gymdeithasol yw’r rhwystr mwyaf rhag cyflawni addysg dda, ac mae tlodi yn effeithio ar un o bob tri o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae plant o deuluoedd tlotach neu blant sydd mewn gofal yn fwy tebygol o gyrraedd lefelau is na dysgwyr eraill. O ganlyniad, mae’n amlach yn anoddach i’r dysgwyr hyn gael cyflogaeth medrau uchel neu barhau â’u haddysg ar ôl ysgol.
“Rydym yn gwybod bod dysgwyr o gefndiroedd tlotach yn fwy tebygol o fod ag agwedd negyddol tuag at yr ysgol, ac i fod â disgwyliadau is o ran yr hyn y gall addysg eu helpu i gyflawni. Yn yr ychydig o enghreifftiau gorau, mae ysgolion yn cynllunio ystod o weithgareddau sydd wedi’u dylunio’n ofalus i gynyddu hyder, cymhelliant a hunan-barch y dysgwyr.”
Mae’r ychydig o ysgolion sydd wedi codi cyflawniad eu dysgwyr dan anfantais wedi gwneud hynny drwy addysgu effeithiol sy’n seiliedig ar fedrau, a gweithgareddau a oedd yn targedu cymorth at ddysgwyr unigol, fel mentora neu help gyda medrau sylfaenol. Yn yr ysgolion hyn, mae gan arweinwyr a rheolwyr ddealltwriaeth dda o’r berthynas rhwng lles a safonau.
Mae gweithio gyda’r gymuned a gwasanaethau eraill yn hollbwysig i fynd i’r afael ag effeithiau anfantais economaidd-gymdeithasol. Canfu arolygwyr er bod bron pob un o’r ysgolion yn gweld eu hunain fel ysgolion bro, nid oes dealltwriaeth gyffredin o’r hyn mae hynny’n ei olygu. Mae ysgolion cynradd mewn ardaloedd dan anfantais yn fwy tebygol nag ysgolion uwchradd o ddatblygu cysylltiadau cymunedol, gweithio’n agos â rhieni a gwerthfawrogi gweithio aml-asiantaeth.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at Ysgol Gynradd Blaengwawr, Rhondda Cynon Taf, sydd dros y tair blynedd diwethaf, wedi lleihau’r bwlch yn raddol rhwng perfformiad dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r disgyblion hynny nad ydynt yn gymwys. Mewn un prosiect, bu’r disgyblion yn gweithio gyda chartref gofal preswyl lleol i’r henoed ar ôl i’r trigolion fynegi pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Aeth dysgwyr Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 ati i weithio gyda’r trigolion ar hanes lleol, llythrennedd a phrosiectau creadigol. O ganlyniad, dysgodd y disgyblion am gyfathrebu’n sensitif â’r trigolion, datblygu medrau cymdeithasol da, gwella’u medrau llafar ac ysgrifennu a datblygu mwy o gymhelliant a hunanhyder.
Mae Estyn yn argymell y dylai ysgolion ddarllen yr adroddiad hwn a defnyddio’i ganfyddiadau a’i astudiaethau achos i gynorthwyo â chynllunio i leihau effaith tlodi ac anfantais ar gyflawniad. Yn benodol, dylai ysgolion hefyd ddatblygu dull mwy systematig o nodi, olrhain a monitro dysgwyr dan anfantais. Ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol i gytuno cylch gwaith mwy penodol ar gyfer ysgolion bro.
-DIWEDD-
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
Nodiadau i olygyddion
• Mae sail dystiolaeth yr adroddiad hwn yn cynnwys:
o Ymweliadau â sampl o 24 o ysgolion, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac ysgolion mewn ardaloedd gwledig a threfol, bob un ohonynt ag o leiaf 15% o’u dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim;
o Gwybodaeth gan awdurdodau lleol ac o adroddiadau arolygu; a
o Chyfweliadau gyda grwpiau ac asiantaethau sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael ag anfantais e.e. Y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, ContinYou Cymru, Achub y Plant a chydlynwyr Rhagori (Codi Cyrhaeddiad a Safonau Addysgol Unigolion yng Nghymru).
• Mae Estyn wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau thematig cysylltiedig, a chynhwysir cyfeiriadau atynt ar ddiwedd yr adroddiad llawn. Maent yn cynnwys mynd i’r afael â thlodi plant ac anfantais, effaith cynlluniau pontio a sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni’u potensial.
• Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n ariannu Estyn (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998), ond rydyn ni'n annibynnol arno. Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi, a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
