Newyddion

06 Chw 2013

Ymgynghoriad ar newidiadau i arolygiadau Estyn

Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, a Llywodraeth Cymru, wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cyd ar y newidiadau arfaethedig i ba mor aml y cynhelir arolygiadau a’r cyfnod o rybudd a roddir i ysgolion a darparwyr eraill.

29 Ion 2013

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2011- 2012

Mae arweinyddiaeth gadarn ar bobl lefel yn allweddol i wella safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ôl Ann Keane, Prif Arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

17 Ion 2013

Cyrsiau peirianneg yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd dysgu da

Mae llawer o enghreifftiau o arfer dda sydd weithiau’n rhagorol i’w gweld mewn colegau addysg bellach (AB) a darparwyr dysgu yn y gwaith sy’n cynnig cyrsiau peirianneg yng Nghymru. Mae pobl ifanc sy’n astudio peirianneg yn cael y cyfle i weithio a hyfforddi gyda diwydiant, ac mae cysylltiadau gydag ysgolion i gyflwyno disgyblion i beirianneg yn gwella.

15 Ion 2013

Mae plant yng Nghymru yn gwneud cynnydd o ran datblygu’u medrau Iaith Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen

Mae plant yng Nghymru yn gwneud cynnydd o ran caffael medrau iaith Gymraeg, ond mae angen gwneud mwy i barhau â’r duedd tuag i fyny yn eu medrau darllen ac ysgrifennu, yn ôl Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer Cymru.

18 Rha 2012

Plant Sy’n Derbyn Gofal a Throseddau Ieuenctid: Gall Symud Rwystro Adsefydlu

Nid yw plant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu lleoli mewn ardal i ffwrdd o’u hardaloedd cartref ac sydd hefyd wedi troseddu, wedi’u paratoi i ddilyn bywydau cynhyrchiol, o fewn y gyfraith, ac mae’n rhaid i hyn newid, yn ôl arolygwyr annibynnol. Heddiw, cyhoeddant adroddiad arolygiad ar y cyd o waith timau troseddau ieuenctid (TTIau) gyda’r grŵp hwn o bobl ifanc.

17 Rha 2012

Adroddiad Estyn yn cael ei gyhoeddi ar wasanaethau addysg yn Sir Benfro

Barnwyd bod gwasanaethau addysg Cyngor Sir Penfro ar gyfer plant a phobl ifanc yn anfoddhaol mewn adroddiad gan Estyn a gyhoeddwyd heddiw. O ganlyniad i’r adroddiad hwn, mae Estyn wedi argymell i Weinidogion Cymru y dylid rhoi’r awdurdod yn y categori awdurdod y mae angen gweithredu mesurau arbennig ynddo.

13 Tac 2012

Estyn yn cyhoeddi canllaw i helpu ysgolion fynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais

Heddiw, mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, yn cyhoeddi canllaw arfer dda i helpu ysgolion fynd i’r afael â thlodi ac anfantais mewn ysgolion.

11 Hyd 2012

Dylai'r broses o drosglwyddo o wasanaethau ieuenctid i wasanaethau oedolion yn y system cyfiawnder troseddol fod yn rhwyddach, meddai arolygwyr

Mae angen gwella’r gwaith o gynorthwyo pobl ifanc 18 oed sydd yn y system cyfiawnder troseddol i symud o wasanaethau ieuenctid i wasanaethau oedolion, meddai arolygwyr annibynnol, wrth iddynt gyhoeddi adroddiad o adolygiad ar y cyd o drefniadau pontio.

01 Hyd 2012

Mae angen rhoi blaenoriaeth i helpu disgyblion i wneud y penderfyniadau cywir am eu dyfodol

Nid yw llawer o ysgolion uwchradd yn gwybod beth yw effaith yr amser y maent yn ei dreulio yn helpu i baratoi disgyblion i wneud y penderfyniad cywir am eu llwybr gyrfa yn y dyfodol, yn ôl Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

28 Aws 2012

Nodyn ymweliad - Rheoli ymddygiad mewn pedair ysgol yn Sir Benfro - Gorffennaf 2012

Mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar drefniadau rheoli ymddygiad mewn pedair o ysgolion yn Sir Benfro. Ar ddydd Mawrth 3 Gorffennaf a dydd Mercher 4 Gorffennaf 2012, fe wnaeth dau arolygydd o Estyn ac un arolygydd o AGGCC ymweld yn ddirybudd â dwy ysgol uwchradd a dwy o ysgolion y cyfnod cynradd yn Sir Benfro. Cafodd pob ysgol adborth llafar ar ddiwedd yr ymweliad, a llythyr i ddilyn, a dynnodd sylw at unrhyw faterion uniongyrchol i roi sylw iddynt, a nodweddion da a meysydd i’w datblygu. Rhoddodd yr arolygwyr adborth i swyddogion yr awdurdod lleol hefyd ar ddiwedd yr ymweliadau.

Diweddariad i'n polisi preifatrwydd

Er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gwcis, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'n polisiau am breifatrwydd. Cymerwch funud i adolygu'r newidiadau hyn sy'n dangos pa gwcis rydym yn ei ddefnyddio a'r wybodaeth rydym yn gasglu ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio ein gwefan, mi fyddwch yn cytuno gyda'r newidiadau hyn.

Dwi'n cytuno

Fe ddylai'r neges hwn ymddangos ar eich ymweliad cyntaf i'r wefan yn unig.