25 Ionawr 2011
Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2009-2010
Mae’r adroddiad yn amlygu’r ffaith nad oedd y ddarpariaeth cystal ag y dylai fod mewn bron i draean o ysgolion a gynhelir, ac ychydig iawn o ysgolion neu ddarparwyr addysg a hyfforddiant eraill oedd yn gyson ragorol. Dim ond 8% o ysgolion a gyflawnodd y radd uchaf ar draws pob agwedd ar arolygu.
Mae’r Adroddiad Blynyddol eleni yn edrych ar y cynnydd a wnaed ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru dros y cylch arolygu diwethaf (2004-2010), ac yn ystod y cyfnod hwn, arolygodd Estyn bob darparwr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Wrth lansio ei hadroddiad heddiw (25 Ionawr), dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, Ann Keane,
“Mae’n rhaid i ni wynebu ffeithiau yn awr yn fwy nag erioed – mae angen i ni gymryd camau mwy i wella’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae heriau y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw cyn y gall addysg yng Nghymru gystadlu yn erbyn yr addysg orau yn y byd. Yn gyntaf, mae tystiolaeth dros y chwe blynedd diwethaf yn dangos nad yw’r systemau i olrhain cynnydd dysgwyr trwy gydol eu haddysg yn ddigon da. Mae gwahanol fathau o asesiadau yn mesur perfformiad mewn gwahanol ffyrdd, ac weithiau, ar ddiwedd yr ysgol gynradd er enghraifft, nid yw’r asesiadau yn ddigon trylwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd nodi bylchau mewn medrau sylfaenol a chynllunio cymorth mewn ffordd gyson.“Yn ail, mae datblygu medrau llythrennedd a rhifedd yn her hefyd. Mae llawer gormod o ddysgwyr o bob oedran a lefel gallu o hyd nad yw eu medrau’n cael eu datblygu’n llawn. Mae angen i ysgolion ddatblygu llythrennedd a rhifedd ym mhob pwnc, nid mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg yn unig, fel bod disgyblion yn dysgu’r medrau hanfodol hyn i gyfoethogi eu bywydau a chyfrannu at eu cyflogadwyedd.
“Yn drydydd, mae angen i ni gael hyfforddiant gwell ar gyfer arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd a fydd yn eu helpu i fagu hyder a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio. Mae angen i ni hyrwyddo a meithrin amgylchedd o greadigrwydd ac arloesedd yn yr ystafell ddosbarth.”
Serch hynny, gwelodd arolygwyr rai gwelliannau arwyddocaol mewn rhai lleoliadau unigol, fel ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr dysgu oedolion a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a chafwyd y gwelliannau mwyaf mewn addysg bellach, dysgu yn y gwaith a darpariaeth y blynyddoedd cynnar.
Gorffennodd Ann Keane trwy ddweud, “Mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill wedi gwneud peth cynnydd ers dechrau’r cylch arolygu yn 2004 ac maen nhw hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r heriau a amlinellwyd yn y ddau Adroddiad Blynyddol diwethaf. Ond y gwirionedd yw bod gormod o agweddau ar y ddarpariaeth ddim yn ddigon da.”
“Gellir ond mynd i’r afael â’r heriau hyn yn effeithiol trwy fwy o gydweithio, gyda mwy o ddarparwyr addysg a hyfforddiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i rannu adnoddau, data ac arfer orau. Mae angen i ni ymateb yn gadarnhaol i heriau’r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.”
Yn olaf, mae Estyn wedi llunio'r nifer o ffilm astudiaeth achos arfer orau am y tro cyntaf sy’n dangos sut mae ysgolion a darparwyr yn cyflwyno arfer sy’n arwain y sector mewn meysydd fel dwyieithrwydd, hunanarfarnu a gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni a gofalwyr.
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion:
Mae copi llawn o Adroddiad Blynyddol 2009-2010 a gweddarllediad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi, wedi’i gyhoeddi ar wefan Estyn.
Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.
Ein gweledigaeth yw cael ein hadnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.
Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).
I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef www.estyn.gov.uk
Cyfweliadau â’r cyfryngau
I drefnu cyfweliad gydag Ann Keane, PAEM (Cymraeg) neu Meilyr Rowlands (Cymraeg) , Cyfarwyddwyr Strategol, cysylltwch â:
Gina Carrington,
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317
