07 Mehefin 2011
Mae angen mwy o gyfleoedd ar ddisgyblion i ddatblygu medrau ariannol ar draws y cwricwlwm
Caiff bron pob disgybl gyfleoedd yn yr ysgol i ddysgu sut i reoli eu cyllid, a datblygu eu medrau, yn ôl adroddiad newydd gan Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn addysgu disgyblion am gyllid mewn gwersi addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Fodd bynnag, nid yw’r gwersi hyn yn ddigon ar eu pen eu hunain i wneud yn siŵr bod gan ddysgwyr y medrau i wneud penderfyniadau ariannol cadarn pan fyddant yn hŷn.
Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd, “Er bod disgyblion yn cael eu haddysgu am gyllid mewn gwersi ABCh, nid yw mwyafrif yr ysgolion yn cynllunio’n ddigon da i roi cyfle i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau ariannol mewn gwahanol gyd-destunau ar draws y cwricwlwm. Mewn ysgolion lle mae hon yn arfer sydd wedi ennill ei phlwyf yn dda, uwch arweinydd sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol i gydlynu hyfforddiant a chymorth perthnasol ar gyfer athrawon er mwyn iddyn nhw allu cynllunio, cyflwyno ac arfarnu addysg ariannol ar draws y cwricwlwm.
“O ganlyniad, mae gan ddisgyblion yn yr ysgolion hyn ddealltwriaeth dda o faterion ariannol ac maen nhw’n gallu defnyddio eu dysgu ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn, fel cyllid teuluol, neu faterion ariannol cyfredol yn y cyfryngau.”
Canfu arolygwyr fod diffyg adnoddau Cymraeg ar gyfer addysg ariannol. O ganlyniad, rhaid i ddysgwyr cyfrwng Cymraeg yn aml ddefnyddio adnoddau Saesneg, neu mae’n rhaid i athrawon eu cyfieithu. Mae Estyn yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi datblygiad adnoddau Cymraeg.
Mae adroddiad Estyn yn cynnwys astudiaethau achos sy’n dangos arfer orau wrth ddatblygu addysg ariannol. Mae Ysgol Gynradd y Coed-duon yng Nghaerffili wedi hyfforddi pob un o’i hathrawon ac wedi cynllunio rhaglen o weithgareddau ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, mae disgyblion yn cael gwybodaeth dda am faterion ariannol, yn deall pwysigrwydd cynilion, ac yn gwybod am y gwahanol fathau o ddyled a chredyd. Mae rhai dysgwyr hŷn hefyd yn rhedeg cwmni cydweithredol ffrwythau a llysiau i ymarfer eu medrau mewn cyd-destun go iawn.
Mae’r adroddiad yn amlinellu argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys argymhellion am fonitro ac arfarnu cynnydd dysgwyr mewn defnyddio eu gwybodaeth ariannol, gan annog ysgolion i rannu arfer orau a chynnig digon o hyfforddiant i athrawon gyflwyno addysg ariannol yn effeithiol.
– DIWEDD –
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Charlotte Bram, Gina Carrington
Y Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446454
Nodiadau i olygyddion
- Mae copi o’r adroddiad llawn i’w weld ar-lein yma
- Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan, sef:
