Rhaglen ddysgu yn ennyn hyder ymhlith athrawon ond ni chaiff lawer o effaith ar safonau

Rhannu |

29 Mehefin 2011

Rhaglen ddysgu yn ennyn hyder ymhlith athrawon ond ni chaiff lawer o effaith ar safonau

Prin yw’r dystiolaeth i ddangos bod rhaglen sydd wedi’i chynllunio i helpu disgyblion i ddatblygu eu medrau meddwl ac asesu wedi gwella safonau yn neilliannau asesiadau ymhlith plant 7, 11 ac 14 mlwydd oed, meddai Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Nod y rhaglen ‘Datblygu medrau meddwl ac asesu ar gyfer dysgu’ a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw cefnogi athrawon i helpu disgyblion i wybod sut i ddysgu, yn hytrach na beth i’w ddysgu. Fe’i rhoddwyd ar brawf yn 2005 ac ers hynny, mae wedi cael ei chyflwyno ar draws bron pob awdurdod lleol, gan gynnwys 870 o athrawon.

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd, “Mae’n anodd iawn priodoli gwelliannau ym mherfformiad disgyblion yn benodol i effaith y rhaglen hon. Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhaglen wedi llwyddo i ennyn hyder ymhlith llawer o athrawon a disgyblion. Rydym ni wedi gweld cynllunio gwersi gwell i ddatblygu medrau meddwl disgyblion, gydag athrawon yn defnyddio ystod ehangach o arddulliau addysgu. Ond i fod yn gwbl effeithiol, mae angen cymhwyso technegau’r rhaglen yng nghyd-destun cwricwlwm sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu medrau disgyblion yn raddol.”

Yn y gwersi gorau, mae athrawon sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r rhaglen yn hwyluso, yn hytrach na chyfeirio’r dysgu. Maent yn siarad llai ac yn canolbwyntio ar gwestiynau agored ac ar annog atebion manwl. Mae’r dull hwn yn ysgogi medrau meddwl beirniadol, dadansoddi a datrys problemau disgyblion. Fodd bynnag, canfu Estyn fod gormod o amrywiad yn bodoli o hyd yn ansawdd yr addysgu o fewn, a rhwng yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen. Canfu arolygwyr hefyd fod y rhaglen wedi’i datblygu mwy mewn ysgolion cynradd na mewn ysgolion uwchradd.

Mewn llawer o’r ysgolion cynradd yr ymwelwyd â nhw, mae gwelliannau wedi bod yn agweddau’r disgyblion at ddysgu ac mewn ymddygiad. Mae’r rhyngweithio rhwng disgyblion ac oedolion wedi gwella ac mae disgyblion wedi dod yn fwy parod i wrando ar safbwyntiau pobl eraill.

Mae’r rhaglen wedi cael yr effaith fwyaf lle mae uwch reolwyr wedi bod yn gefnogol ac wedi hyrwyddo diwylliant o ymholi ac ymchwil gweithredu ymhlith athrawon.

Mae Ysgol Sain Tathan, Bro Morgannwg, yn un enghraifft yn unig o ysgol gynradd sydd wedi cyflwyno’r rhaglen datblygu medrau meddwl ac asesu ar gyfer dysgu yn llwyddiannus ar draws yr ysgol gyfan. Mae’r pennaeth dros dro a’r dirprwy bennaeth yn arsylwi gwersi i annog a monitro arfer dda. Maent wedi rhoi blaenoriaeth i’r rhaglen, ac ochr yn ochr ag ysgolion eraill, maent wedi cyfrannu at DVD o strategaethau a myfyrdodau gan ddisgyblion ac athrawon sy’n cymryd rhan.

Mae adroddiad Estyn yn gwneud nifer o argymhellion, yn cynnwys y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu meini prawf llwyddiant clir ar gyfer y rhaglen er mwyn gallu arfarnu ei heffaith ar safonau a gwerth am arian.

-DIWEDD-

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Gina Carrington
Y Tîm Cyfathrebu, y Cyfryngau a Marchnata
Estyn
cyfathrebu@estyn.gov.uk
02920 446317

Nodiadau i olygyddion

  • Mae sail dystiolaeth yr adroddiad hwn yn cynnwys:

o Ymweliadau â dau awdurdod lleol a sampl o 20 ysgol;
o Holiadur i 98 o ysgolion a phob awdurdod lleol;
o Dadansoddiad o 42 adroddiad arolygu ysgolion a gymerodd ran yn y rhaglen a’r peilot;
o Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; a
o chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru.

  • Estyn yw swyddfa Prif Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998). Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru, cynghori Gweinidogion ac uwch lunwyr polisi a lledaenu arfer orau ar addysg a hyfforddiant.
  • I gael mwy o wybodaeth, trowch at ein gwefan www.estyn.gov.uk